bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Speed yn ymddeol

Gary Speed

13 Hydref 2004

Mae Capten Cymru Gary Speed wedi penderfynu ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn dilyn y golled 3-2 yn erbyn Glad Pwyl nos Fercher.

"Mae'r amser yn iawn i roi'r gorau iddi," meddai Speed, 35, sydd wedi ennill 85 o gapiau dros ei wlad.

"Mi fydd hi'n anodd i ni ennill ein lle yng Nghwpan y Byd felly ni fyddai'n briodol i mi barhau.

"Mae'n amser i rhywun fengach ddod i mewn ar gyfer y gemau rhagbrofol nesaf. Rwyf wedi cael gyrfa wych a rwyf wedi mwynhau pob eiliad."

Mae Speed wedi ei gysylltu â swydd rheolwr Cymru ers i Mark Hughes adael i ymuno â Blackburn Rovers.

Ond mynnodd na fyddai'n gwneud cais am y swydd ond byddai'n "siarad â'r FAW petai rhywun yn cysylltu â mi".

Mae gan Speed ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb â Bolton Wanderers ac mae ei reolwr, Sam Allardyce, wedi erfyn arno i ganolbwyntio ar ei yrfa fel chwaraewr.

Ond dywedodd Mark Hughes, wrth ddod â'i yrfa rhyngwladol fel chwaraewr a rheolwr Cymru i ben wedi 21-mlynedd, bod Speed â'r gallu i fod yn reolwr Cymru.

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Robbie Savage, eisoes wedi datgan mai Speed ddylai fod y rheolwr nesaf, ynghyd â rheolwr profiadol fel Brian Flynn.

"Gary a Brian Flynn ddylai gael y swydd - mae pawb yn y garfan eisiau Gary gymryd yr awenau," meddai.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy