Cymru 2-3 Gwlad Pwyl
13 Hydref 2004
Nid oedd diweddglo hapus i yrfa Mark Hughes fel rheolwr Cymru wedi'r Pwyliaid ddod yn ôl i ennill 3-2 yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Rob Earnshaw gôl haeddianol i Gymru yn gynnar yn yr ail hanner ag ergyd hyfryd o gig rhydd sydyn Robbie Savage.
Daeth y Pwyliaid yn gyfartal wedi 72 o wrth i'r eilydd Tomasz Frankowski fabnteisio ar gamgymeriad James Collins cyn i Maciej Zurawski roi'r ymwelwyr ar y blaen naw munud yn ddiweddarach.
Seliwyd y fuddugoliaeth gydag ergyd Jacek Krzynowek o bell yn hedfan heibio Paul Jones yn y gôl i Gymru a rhwydodd John Hartson gôl gysur i Gynru yn yr eiliadau olaf.
Mae'r canlyniad yn gadael Cymru mewn sefyllfa drychinebus yn y grwp gyda dau bwynt o'u pedair gêm agoriadol.Am yr ail gêm yn olynol roedd angen i Gymru newid y tîm cyn ddechrau'r gêm wrth i Ryan Giggs dynnu allan oherwydd poen yn ei fol.
A synnwyd llawer wrth i Hughes benderfynu gadael Hartson a dechrau gyda Robert Earnshaw a Craig Bellamy yn y llinell flaen.
Cafodd Collins ei alw yn ôl i'r tîm wedi methu'r gêm yn erbyn Lloegr er mwyn chwarae yng nghanol yr amddiffyn gyda Danny Gabbidon, a dychwelodd Robbie Savage i ganol cae wedi ei waharddiad o un gêm.
Roedd cyflymder Bellamy ac Earnshaw yn peri problemau i'r ymwelwyr ac Earnshaw gafodd y cyfle cyntaf wedi saith munud ond ergydiodd heibio'r postyn.
Daeth cyfle cyntaf Gwlad Pwyl wedi chwarter awr ond llwyddodd Gabbidon i wyro ergyd Miroslaw Szymkowiak allan am gic gornel.
Cymru reolodd gweddill yr hanner gyda Jerzy Dudek yn y gôl i Wlad Pwyl yn effro i arbed ergyd Bellamy cyn troi ergyd bwerus Simon Davies dros y trawst.
A roedd amddiffyn Gwlad Pwyl yn brysur wrth geisio atal Earnshaw, Bellamy a Gary Speed - oedd yn creu record wrth arwain ei wlad am y 44ydd tro - rhag sgorio.
Roedd Earnshaw o fewn trwch blewyn i rwydo wrth gyffwrdd croesiad Mark Delaney ar draws y cwrt cosbiond aeth y bêl heibio'r postyn.
Dim ond 32 eiliad oedd ei angen ar Gymru cyn bygwth gôl Gwlad Pwyl ar ddechrau'r ail hanner, ond methodd Bellamy â chadw ei ergyd i lawr.
Ond cafodd Cymru eu haeddiant wedi ergyd hyfryd Earnshaw roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 55 munud.
Chwaraeodd Savage y gic rhydd tu ôl i amddiffyn Gwlad Pwyl, ceisiodd Tomasz Rzasa ei throi hi'n ôl i'r gôl-geidwad ond roedd hi'n rhy fyr a daeth Earnshaw i fewn i'w chladdu.
Fe ddylai Bellamy fod wedi dyblu'r mantais yn gynnar wedi'r gôl ond roedd ei ergyd wan o chwe llath yn hawdd i Dudek.
Trodd y gêm ar ei ben o fewn 13 munud wrth i Gwlad Pwyl ddod yn gyfartal.
Llwyddodd Frankowski i rwydo â chyfle cyntaf Gwlad Pwyl wrth gasglu pas dros yr amddiffyn cyn taro ergyd i waelod y rhwyd.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Zurawski rasio i lawr y chwith cyn canfod cornel y rhwyd ag ergyd hyfryd.
A chafwyd halen yn y briw wrth i Jacek Krzynowek lwyddo i guro Paul Jones ag ergyd o 20 llath
Cafwyd gôl gysur wrth i Hartson benio cic rydd Savage i gefn y rhwyd yn yr eiliadau olaf ond bydd yn anodd iawn i Gymru ennill eu lle yng Nghwpan y Byd 2006 bellach.
Cymru: Jones, Delaney, Collins, Gabbidon, Thatcher, Davies, Speed, Savage, Koumas, Bellamy, Earnshaw
Eilyddion: Fletcher, Pembridge, Robinson, Oster, Parry, Hartson, Crossley.
Gwlad Pwyl: Dudek, Rzasa, Kosowski, Baszcyznski, Kaluzny, Bak, Hajto, Krzynowek, Zurawski, Szymkowiak, Wlodarczyk.
Eilyddion: Boruc, Bieniuk, Kaczorowski, Mila, Zajac, Frankowski, Klos.
Dyfarnwr: Alain Sars (Ffrainc)