Hughes: 'cyfle rhy dda i'w golli'
16 Medi 2004
Cyfaddefodd rheolwr Blackburn, Mark Hughes, fod y swydd ar Barc Ewood yn un oedd yn "rhy dda i'w golli".
Mae Hughes wedi arwyddo cytundeb tair blynedd â Rovers ond bydd yn parhau i arwain Cymru ar gyfer eu dwy gêm nesaf.
"Mae popeth wedi digwydd mor sydyn a rwyf wrth fy mod i fod yma," meddai Hughes.
"Roedd yn bwysig ar yr adeg yma o fy ngyrfa i symud a roedd yr amser yn iawn i mi."
Ychwanegodd Hughes: "Mae'n glwb rwyf yn nabod, rwy'n nabod pobl yma. Maent wedi gweld yr hyn rwyf yn gallu wneud, maent wedi gweld fy ngwaith. "Mae gennyf lot fawr o ffrindiau yma ac efallai fod hynny wedi dylanwadu ar y penderfyniad."
Bydd Hughes wrth y llyw wrth i Gymru wynebu Lloegr yn Old Trafford ar 9 Hydref, a chroesawu Gwlad Pwyl i Stadiwm y Mileniwm pedwar diwrnod yn ddiweddarach.
A mynnodd ei fod yn gallu cyfuno'r ddwy swydd ar gyfer y ddwy gêm cyn dod â'i berthynas â Chymru i ben.
"Mae'r paratoadau (ar gyfer y ddwy gêm a Lloegr a Gwlad Pwyl) yn eu lle," meddai Hughes.
"Byddaf y canolbwyntio ar y gemau â Blackburn ar gyfer y gemau nesaf a byddaf yn canolbwyntio ar Gymru yn ystod yr wythnos rhyngwladol."
Er nad oes gan Hughes brofiad o reoli yn yr uwchgynghrair, mae'r cyn ymosodwr yn hydrus bydd yn gallu symud yn rhwydd o fod yn reolwr rhyngwladol i fod yn rheolwr clwb.
"Rwy'n siwr bydd y gwaith o ddydd i ddydd yn wahanol i'r hyn rwyf wedi arfer ei wneud ond nid wyf yn ofnus," ychwanegodd Hughes.
"Rwyf wedi bod yn y gêm am 20 i 25 mlynedd a rwyf wedi bod yn rheolwr ers 5 mlynedd.
"Bydd lot fawr o fy mhrofiadau â Chymru yn talu ar eu canfed."
Cadarnhaodd Hughes fod ei is-reolwr â Chymru, Mark Bowen, yn ymuno ag ef ar Barc Ewood.