bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Hughes yn parhau'n hyderus

08 Medi 2004

Dywedodd rheolwr Cymru, Mark Hughes, fod modd i'w dîm gyrraedd Cwpan y Byd er gêm gyfartal siomedig â Gogledd Iwerddon.

"Nid dyma'r dechrau delfrydol, ond nid ydym wedi colli'r ddwy gêm, mae yna ffordd bell i fynd," meddai Hughes.

"O ran y perfformiad mae'r hogia'n haeddu clod am yr ail hanner."

Gwrthododd Hughes wneud unrhyw sylwad ar y sibrydion sydd yn ei gysylltu â swydd rheoli Blackburn, gan ddweud: "Rwyf eisiau cael y chwaraewyr at eu gilydd fel grwp a mynd eto."

Cyfaddefodd y rheolwr fod colli Robbie Savage yn gynnar yn yr hanner cyntaf wedi drysu ei gynlluniau.

"Nid oeddem yn gallu cael gafael ar y bêl na chael i fewn i'r gêm yn gynnar yn y cyfnod agoriadol," meddai Hughes.

"Rwyf wedi siarad â Robbie ac mae'n mynnu nad oedd yn haeddu'r cerdyn coch - ond fe newidiodd y gêm yn llwyr.

"Rydych yn gwneud cynlluniau ar gyfer y gêm, nd yn sydyn maent wedi eu chwalu.

"Wrth ildio dwy gôl roedd gennym fynydd i'w ddringo.

"Pob clod i'r tîm - yn enwedig yn yr ail hanner - roeddent wedi llwyddo i achub y gêm, ond nid oes modd rhoi mantais fel yna i dimau."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy