bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Cymru 2-2 Gogledd Iwerddon

Robbie Savage a Michael Hughes yn flin

08 Medi 2004

Cafodd Gogledd Iwerddon gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Cymru er chwarae ag un dyn yn llai am gyfnod hir o'r gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2006 yng Nghaerdydd.

Mewn gêm danllyd cafodd Robbie Savage a Michael Hughes eu gyrru am gawod gynnar wedi wyth munud yn unig.

Sgoriodd Jeff Whitley ac yna David Healy i'r ymwelwyr cyn i Healy dderbyn dau gerdyn melyn am ddathlu mewn ffordd amhriodol.

Daeth Cymru yn ôl â goliau gan John Hartson wedi 31 munud, a'r eilydd, Rob Earnshaw, wedi 74 munud.

Dechreuodd Gogledd Iwerddon yn dda gan roi pwysau ar amddiffyn Cymru.

Ond cafodd y gêm ei newid yn gyfan gwbwl ar ôl wyth munud wedi Savage redeg â'r bêl o'i hanner ei hun.

Cafodd ei lorio â thacl flêr gan Hughes ond cododd o'r llawr i geisio ymateb cyn i'r chwaraewr o Ogledd Iwerddon ei wthio yn ôl i lawr.

Penderfynodd y dyfarnwr yrru'r ddau oddi ar y cae - y tro cyntaf i Savage weld y cerdyn coch yn ei yrfa.

Dau funud yn ddiweddarach peniodd James Collins y bêl i lwybr Whitley a sgoriodd yntau â tharan o ergyd â'i droed dde.

Cafodd Cymru gyfleon i unioni'r sgôr drwy Jason Koumas a Ben Thatcher ond dyblwyd mantais yr ymwelwyr wrth i Collins lithro a chaniatau Healy i fynd drwodd un am un â'r golwr, Paul Jones.

Cododd yr ymosodwr y bêl dros Jones a phenio i'r rhwyd.

Wrth ddathlu ciciodd Healy y fflag gornel cyn codi ei fraich at y dorf.

Penderfynodd y dyfarnwr ei fod yn haeddu cerdyn melyn am y ddau beth a fe'i anfonwyd o'r maes.

Gyda dyn ychwanegol, penderfynodd Mark Hughes ddod â Rob Earnshaw ymlaen gan eilyddio Mark Delaney.

Daeth gôl i Gymru wedi cyfnod hir o bwysau wrth i Hartson benio yn fedrus i gornel y rhwyd yn dilyn croesiad effeithiol gan Craig Bellamy.

Cafodd Earnshaw a Hartson gyfleon eraill cyn yr egwyl ond, yn amlach na pheidio, roedd y bas olaf yn un gwan.

Yn yr ail hanner bu bron i Tony Capaldi gosbi Cymru am ymosod yn ormodol ond llwyddodd Jones i arbed ei ergyd.

Mentrodd Mark Hughes ymhellach wrth ddod â'r asgellwr Paul Parry i'r maes yn lle'r cefnwr, Ben Thatcher, a talodd ar ei ganfed wrth i Gymru i unioni'r sgôr ar ôl 74 munud.

Croesodd John Oster o'r dde a peniodd Earnshaw heibio Maik Taylor yn y gôl - ei wythfed gôl mewn 15 gêm rhyngwladol.

Bu bron i Gymru ennill y gêm gyda tri funud yn weddill ond ergydiodd Collins heibio'r postyn yn dilyn croesiad Bellamy ar draws wyneb y gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu mai dim ond dau bwynt sydd gan Cymru o'u dwy gêm gyntaf yn Grwp 6, lle'r oedd Hughes wedi disgwyl i'w dîm gasglu chwech.


Cymru: Jones, Delaney, Collins, Gabbidon, Thatcher, Oster, Savage, Speed, Koumas, Bellamy, Hartson.
Eilyddion: Melville, Page, Parry, Pembridge, Taylor, Earnshaw, Crossley.

Gogledd Iwerddon: Taylor, Aaron Hughes, Murdock, Williams, Capaldi, Johnson, Clyde, Whitley, Michael Hughes, Healy, Quinn.
Eilyddion: Carroll, Craigan, Jones, Smith, McVeigh, Elliott, McCartney.

Dyfarnwr: Domenico Messina (Yr Eidal)





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy