Azerbaijan 1-1 Cymru
04 Medi 2004
Cafodd Cymru gêm gyfartal yn Azerbaijan wrth iddyn nhw ddechrau ar y llwybr tuag at Cwpan y Byd 2006 yn yr Almaen.
Aeth gŵyr Mark Hughes ar y blaen wedi 47 munud wrth i Gary Speed ergydio i'r rhwyd yn dilyn peniad John Hartson.
Ond daeth y tîm cartref yn ôl wrth i Rashid Sadikhov rwydo â chic rhydd o 40 llath.
Bu bron i Gymru ennill y gêm yn hwyr wrth i Rob Earnshaw benio ond cafodd yr ergyd ei throi yn erbyn y postyn gan y gôlgeidwad Dmitriy Kramarenko.
Dechreuodd Cymru yn addawol gan ennill sawl cic rhydd o fewn chwarter amddiffynnol Azerbaijan.Y bwriad oedd i roi prawf i'r tîm cartref yn yr awyr ond methiant llwyr oedd hynny wrth i Gymru daro sawl pêl gwael i fewn i'r canol.
Wrth i Azerbaijan ddod i fewn i'r gêm nid oedd amddiffyn Cymru yn edrych yn rhy gadarn yn enwedig gan fod Danny Gabbidon yn chwarae mewn safle anghyfarwydd fel cefnwr chwith.
Anatoliy Ponomarev oedd y chwaraewr i greu y rhan fwyaf o broblemau i Gymru a chafodd gyfle euraidd wrth iddo gasglu cic rydd Sadikhov a throi Gabbidon cyn ergydio fodfeddi dros y trawst.
Cafodd Cymru eu cyfle gorau o'r hanner cyntaf ar ôl 38 munud pan gasglodd Hartson dafliad hir Pembridge ond cafodd ei ergyd ei gadw allan gan yr amddiffynnwr.
Dechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf gyda Gabbidon yn bygwth i lawr yr asgell chwith a daeth gôl Cymru o groesiad gan amddiffynnwr Caerdydd.
Casglodd Jason Koumas bêl gan Gabbidon cyn canfod John Hartson yn y cwrt a pheniodd yr ymosodwr yn berffaith i lwybr Speed, daniodd ergyd gelfydd i gefn y rhwyd.
Hon oedd trydydd gôl Speed mewn tair gêm yn erbyn yr Azeri wedi iddo rwydo ddwy waith yn eu herbyn yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2004.
Ond nid oedd mantais Cymru i barau'n hir iawn wrth i Azerbaijan ennill cic rhydd 40 llath o gôl Cymru a taniodd Sadikhov ergyd wych wyrodd i gefn y rhwyd.
Llwyddodd Paul Jones i gyffwrdd y bêl, ond methiant oedd ei ymdrechion i gadw'r bêl allan.
Bu bron i Azerbaijan fynd ar y blaen wrth i Ponomarev greu lle iddo'i hun yn y cwrt cosbi ond gwnaeth Jones yn dda i arbed.
Er i Gymru chwarae'n well yn yr ail hanner gyda Koumas a John Oster yn dangos cryn dipyn o fflach roedd y bas olaf i fewn i'r cwrt cosbi yn hynod siomedig.
Daeth Robbie Savage yn agos wrth iddo daro cic rhydd yn erbyn Emin Agaev ond disgynnodd y bêl i ddwylo'r gôl-geidwad.
Gyda munudau'n unig yn weddill, gwnaeth Oster yn dda ar y dde cyn croesi i alluogi Eanshaw i benio wrth iddo lithro i'r llawr.
Ond arbedodd y gôlgeidwad yn gampus a gwyro'r bêl oddi ar y postyn ac allan.
Bydd Cymru nawr yn paratoi i wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd nos Fercher.
Colli 3-0 oedd eu hanes yn erbyn Gwlad Pwyl yn Belfast brynhawn Sadwrn.
Azerbaijan: Kramarenko, Sadikhov, Hajiyev, Agaev, Shukurov, Makhmud Gurbanov, Huseynov, Ponomarev, Gurban Gurbanov, Aliyev, Kasimov.
Eilyddion: Mekhtiev, Sultanov, Amirbekov, Tagizade, Agil Mamedov, Nabiev, Ilgar Gurbanov.
Cymru: Jones, Delaney, Melville, Page, Gabbidon, Koumas, Savage, Speed, Pembridge, Bellamy, Hartson.
Eilyddion: Collins, Crossley, Roberts, Oster, Johnson, Taylor, Earnshaw.
Dyfarnwr: Edo Trivkovic (Croatia)