bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Latfia 0-2 Cymru

Craig Bellamy

18 Awst 2004

Sgoriodd John Hartson a Craig Bellamy wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth ardderchog yn Riga.

Bu rhaid i Gymru wrthsefyll cryn dipyn o bwysau yn ystod yr ail hanner yn Stadiwm Skonto, Riga, ond roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn.

Rhwydodd Hartson yn fedrus â'i ben wedi 80 munud o gic rydd gan Jason Koumas o'r chwith.

A chyda dau funud yn unig yn weddill, casglodd Bellamy bas gelfydd yr eilydd, Gareth Roberts, er mwyn dyblu'r fantais ag ergyd hyfryd â'i droed dde.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru yn ymestyn eu rhediad diguro i bump wrth iddynt baratoi ar gyfer y gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Azerbaijan ar 4 Medi.

Crewyd problemau i amddiffyn Cymru gan Maris Verpakovski a bu rhaid i Paul Jones fod ar ei orau er mwyn arbed cic rydd Juris Laizans o'r chwith.

Funudau'n ddiweddarach roedd Jones yn brysur unwaith eto wrth ddelio ag ergyd Mihails Miholaps o groesiad Andrejs Rubins.

Er hyn, roedd chwaraewyr canol cae Cymru yn hynod weithgar ac yn cadw'r tîm yn y gêm.

Serch hynny roedd gormod o frwdfrydedd ar adegau a gwelodd Koumas, Robbie Savage a'r capten Gary Speed eu henwau yn llyfr y dyfarnwr yn ystod yr hanner cyntaf.

Roedd Mark Hughes wedi dewis chwarae â phatrwm 4-4-2 gyda Bellamy yn chwarae ochr yn ochr â Hartson yn y llinell flaen.

A roedd Bellamy i'w weld yn mwynhau'r patrwm o chwarae wrth iddo greu pob math o broblemau i amddiffyn Latfia.

Wedi rhediad treiddgar trwy amddiffyn y tîm cartref, gwelodd ei ergyd yn gwyro yn erbyn amddiffynnwr cyn mynd fodfeddi heibio'r postyn.

Methodd Hartson gyfle euraidd eiliadau cyn yr egwyl wrth fethu â chysylltu'n iawn â'r bêl o groesiad Koumas er ei fod yn rhydd yn y cwrt cosbi.

Cafwyd dechrau digon distaw i'r ail hanner cyn i Hartson ganfod Bellamy â pheniad medrus a bu bron i'r dim i'r ymosodwr chwim rwydo o ongl anodd.

Daeth Latfia yn ôl wrth i Igors Semjonovs orfodi yr eilydd o golwr, Mark Crossley, i arbed yn dda.

Taniodd Andrejs Prohorenkovs dros y traws o dafliad gan y tîm cartref wedi amddiffyn Cymru fynd i gysgu, a roedd mwy o ddryswch yng nghwrt cosbi Cymru wedi cic rydd daro'r traws.

Gyda'r tîm cartref yn pwyso cymaint roedd gôl yn edrych yn anochel ond llwyddodd Hartson i achub Cymru gan rwydo gôl hyfryd â'i ben.

Wrth i Latfia bwyso yn chwilio i unioni'r sgôr, llwyddodd Bellamy i ddyblu'r fantais wedi rhediad celfydd ag ergyd hyfryd i gornel dde'r rhwyd.


Latfia: Kolinko, Stepanovs, Lobanovs, Zemlinskis, Laizans, Blagonadezdins, Isakovs, Miholaps, Verpakovskis, Rubins, Prohorenkovs.
Eilyddion: Piedels, Korablovs, Rimkus, Zakresevskis, Zirnis, Semjonovs, Logins.

Cymru: Jones, Delaney, Melville, Page, Thatcher, Koumas, Savage, Speed, Pembridge, Hartson, Bellamy.
Eilyddion: Ward, Crossley, Collins, Edwards, Gareth Roberts, Fletcher, Johnson, Robinson, Taylor.

Dyfarnwr: Ivan Ivanov (Bwlgaria)





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy