bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Teyrngedau i John Charles

John Charles

21 Chwefror 2004

Mae cawr pêl-droed Cymru, John Charles, wedi marw yn 72 mlwydd oed.

Roedd John Charles yn arwr pêl-droed i filoedd o Gymru ac y chwaraewr cyntaf o Brydain i ymuno â chlwb dramor, pan ymunodd â Juventus o'r Eidal ym 1957 am £65,000.

Cafodd ei enni a'i fagu yn Abertawe cyn ymuno â staff maes tîm pêl-droed y ddinas.

Pan yn 17 mlwydd oed cafodd ei ddenu i glwb Leeds United gan reolwr enwog y clwb, Major Buckley, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn 18 mlwydd oed.

> John Charles: Y Cawr Addfwyn

Sgoriodd dros 150 o goliau mewn wyth tymor â Leeds, gan gynnwys record o 42 gôl ym 1953-54.


Rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n golygu llyfrau ar Enwogion y Byd i Gyngor Llyfrau Cymru. Roedd John Charles (yn naturiol) yn un o arwyr y byd pêl-droed ac i gadw costau cynhyrchu i lawr, gohebais ag ef fwy nag unwaith i gel llun ohono ar gyfer y gyfrol ar Gampwyr Byd y Bêl.

Hiraethai am y dyddiau fu ac ychydig o luniau a feddai i gadw'i atgofion yn effro. Dywedodd, heb deimlo'n sur mewn unrhyw ffordd, fod y byd pêl-droed fel pe bai wedi anghofio amdano. Synhwyrwn ei fod yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd o dro i dro.

Roedd wedi bod yn wael ac ychydig o gyfle a gâi i fynd i weld gêm bêl-droed.

Gwn i bethau wella cryn dipyn ychydig wedi hynny. Cafodd gryn glod yn nyddiau olaf ei oes, ond bu hirlwm yn ei fyd. Teimlaf yn drist heddiw na fyddwn wedi cadw'r ohebiaeth honno.

Dylem gofio'r dyddiau hynny wrth gofio'r dywediad: "Os am barch........"
W J Jones

Ni welir ei fath am hir iawn ar feysydd pêl droed y byd.
Bonheddwr o'r iawn ryw.
Chwaraewr teg na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r maes.
Charles a Pele yw'r unig ddau sy'n haeddu coffad tra pery pêl-droed.

Dylai darlun o John Charles gael ei osod ar wal pob clwb a chymdeithas pêl-droed drwy'r byd i atgoffa pawb o'r unig beldroediwr perffaith chwaraeodd y gêm erioed.
Ifan Glyn, Penygroes

Neb i'w gyffwrdd
Meic Pierce Owen, Dundee, Yr Alban

Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i dalu teyrnged i fonheddwr ein oes. Beth wnaeth o yn ddynol yn ei fywyd sydd yn gwneud o mor arbennig i mi.
Dyn a ffaeleddau fel ni gyd ond dal yn goroesi yn ei foesoldeb. Trist iawn yr wyf heddiw ond hoffwn ddiolch i fy Mam am brynu ei hunangofiant i mi cyn y Nadolig wedi ei lofnodi.
Gorweddwch yn dawel y cawr mawr o Abertawe Annwyl.
Dafydd Williams, Caerdydd

Dyn oedd yn gawr ymhob ystyr y gair. Trueni i'w farwolaeth gael mwy o sylw yn y wasg na chafodd ei beldroed erioed.
Stadiwm newydd Abertawe? Stadiwm John Charles.
Gwydion Gruffudd

Un o'r goreuon. Nid yn unig fyddai o byth yn gwrthod llofnod i blentyn, roedd ganddo amser i siarad â phawb.
Ni chafodd erioed ei enw yn lyfr y dyfarnwr, ac mae'n gwneud i rai o prima donnas heddiw yn bitw iawn.
Arfon Betws, Yr Hâg, Iseldiroedd

Trist ofnadwy i glywed am farwolaeth John Charles y bore ma.
Doeddwn i erioed yn ddigon lwcus i'w weld o'n chwarae gan fy mod i'n rhy ifanc, ond mae o'n esiampl i bawb ym myd chwaraeon hyd heddiw.
Mae'r term arwr yn cael ei ddefnyddio'n llawer rhy hawdd y dyddiau hyn, ond roedd John yn arwr yn mhob ystyr y gair.
Cysga'n dawel John.
Gruff Dodd, Y Barri

Colled fawr i bel droed, colled fawr i Gymru.
Dylid codi cerflun iddo yn Abertawe (er eu bod hi'n rhy hwyr) - Arwr i Gymru, Arwr i'r byd.
Jane Young, Caerfyrddin

Y cawr tyner pwerus - a folwyd
gan filoedd Juventus
yn ei farw, niferus -
yw'r fawlgan o'r llan a'r llys.
Machraeth, Sir Fôn.

Byddai chwaraewyr heddiw yn gwneud yn dda i gymryd esiampl John Charles. Ni enillodd fwy na £18 yr wythnos yn ei fywyd!!
Mae asiantau pêl-droed modern wedi datgan byddai John Charles yn y gêm fodern wedi bod werth £100 miliwn.
RIP Brenin John chdi oedd Y Gorau.
Martin Bryant, Y Barri

Gyrrwch eich teyrnged chi i John Charles icymru@bbc.co.uk.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy