bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Cwpan y Byd, 2006 - Grwp 6

Mark Hughes Wedi Cymru ddod allan o'r het i herio Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gwlad Pwyl ac Awstria yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006, mae BBC Cymru'r Byd yn cymryd golwg ar record Cymru yn erbyn y gwledydd dros y blynyddoedd.

LloegrCymru v Lloegr


Er fod Cymru wedi chwarae 97 o gemau yn erbyn yr 'hen elyn', mae 19 mlynedd ers i'r ddwy wlad gwrdd ar y maes pêl-droed.

Ar 2 Mai, 1984 roedd chwaraewr ifanc o glwb Manchester United yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, a llwyddodd i sgorio unig gôl y gêm. Bellach, wedi sgorio cyfanswm o 16 gôl mewn 72 ymddangosiad, mae Mark Hughes yn rheoli ei wlad.

Daeth y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad ar y Kennington Oval, Llundain ym 1879 gyda'r Saeson yn fuddugol 2-1, ond bu rhaid disgwyl hyd at 1881 am fuddugoliaeth cyntaf Cymru wrth iddynt drechu Lloegr 1-0 yn Blackburn.

O'r 97 gêm, mae Cymru wedi ennill 14, Lloegr wedi ennill 62 a chyda 21 o gemau cyfartal.

Gwlad PwylCymru v Gwlad Pwyl


Y tro cyntaf i Gymru gwrdd â Gwlad Pwyl oedd yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1974 oedd hefyd i'w cynnal yn yr Almaen.

Rhyfedd ddigon, yn ymuno â Chymru a Gwlad Pwyl yn y grwp oedd Lloegr.

Wedi trechu Gwlad Pwyl ar Barc Ninian 2-0 diolch i goliau gan Leighton James a Trevor Hockey, roedd siom i Gymru yng Ngwlad Pwyl wrth golli 3-0 yn Chorzw.

I rwbio halen yn y briw cafodd Hockey ei hel o'r maes yn ystod y gêm - y Cymro cyntaf i weld cerdyn coch mewn gêm ryngwladol.

Yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2002 llwyddodd gwyr Mark Hughes i sicrhau gêm ddi-sgôr yng Ngwlad Pwyl, ond er i Nathan Blake roi Cymru ar y blaen yn Stadiwm y Mileniwm, colli oedd yr hanes wrth i Wlad Pwyl rwydo ddwywaith i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae'r ddwy wlad wedi cwrdd ar un achlysur arall mewn gêm gyfeillgar ddi-sgôr n Radom, Gwlad Pwyl ym 1991.

AwstriaCymru v Awstria


Mae Cymru wedi cwrdd ag Awstria ar bump achlysur - y tro diwethaf mewn gêm gyfeillgar yn Vienna ym 1992. Chris Coleman sgoriodd y gôl i'r ymwelwyr ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, er mwyn sicrhau gêm gyfartal 1-1.

Yn ôl yn y 1970au roedd Awstria yn yr un grwp rhagbrofol â Chymru ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 1976.

Llwyddodd Arfon Griffiths i sgorio unig gôl y gêm ar y Cae Ras i sicrhau fod Cymru yn gorffen ar frig y grwp ac yn camu ymlaen i herio Yugoslavia yn rownd yr wyth olaf.

Dyma unig fuddugoliaeth Cymru dros Awstria, wedi 2-1 colli yn Vienna yn gynharach yn y grwp, ac wedi colli ddwywaith mewn gemau cyfeillgar yn y 1950au.

Gogledd IwerddonCymru v Gogledd Iwerddon


Nid yw Cymru wedi wynebu Gogledd Iwerddon ers gêm gyfartal 1-1 ym Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain ym 1984.

Roedd y ddwy wlad yng ngrwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1950 a 1954 wedi Fifa benderfynu byddai Pencampwriaeth Gwledydd Prydain yn cyfri fel grwp rhagbrofol i Gwpanau'r Byd yn Uruguay a Gorllewin yr Almaen.

Methodd Cymru ac ennill unrhyw un o'r gemau.

Wedi cwrdd ar 90 achlysur, mae Cymru wedi ennill 42 gêm gan golli 27 a chyda 21 gêm gyfartal.

AzerbaijanCymru v Azerbaijan


O'r timau yng ngrwp 6, bydd cefnogwyr a chwaraewyr Cymru yn fwy cyfarwydd ag Azerbaijan nac unrhyw un o'r gwledydd eraill, wedi cwrdd â'r Azeri yn ystod rowndiau rhagbrofol Ewro 2004.

Wedi eu trechu 2-0 yn Baku, llwyddodd Craig Bellamy i sgorio wedi 15 eiliad yn unig i roi Cymru ar y ffordd i fuddugoliaeth swmpus 4-0 yn Stadiwm y Mileniwm.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy