bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Neges destun i ddenu cefnogwyr

16 Medi 2005

Mae Caerdydd wedi gyrru neges destun i 5,000 o aelodau'r clwb yn eu hannog i fynd i'r gêm yn erbyn Crystal Palace ar Barc Ninian ddydd Sadwrn

Daw'r ymgais i ddenu mwy yn sgil rhybudd gan berchennog y clwb, Sam Hammam, y gall torfeydd fod yn 'drychinebus'

Roedd yr Adar Glas yn siomedig mai dim ond 9,196 oedd yn bresennol ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Caerlyr.

Ac mae cyfanswm torfeydd pedair gêm agoriadol y tymor hwn ryw 5,000 yn llai na chyfanswm y llynedd.

"Os ydych yn derbyn neges destun peidiwch â chael gwared ohono, gweithredwch a prynwch docyn," meddai datganiad ar wefan y clwb.

"Gwell byth fyddai dod gyda ffrindiau a gwneud diwrnod ohoni."

Dywed Sam Hammam fod angen mwy o gefnogwyr ar Barc Ninian, a hwythau eisoes £30m mewn dyled.

"Mae ei ffigyrau cyllido am y tymor yn seiliedig ar dorfeydd 13,000 ac roeddem yn meddwl bod hynny yn geidwadol," meddai Hammam.

"Os yw'r cyfartaledd y parhau i fod yn isel yna mae'n mynd i fod yn drychinebus.

"Mae pob 1,000 (o dorf) yn werth £350,000 i'r clwb," ychwanegodd.

"Y mwya' mae'r torfeydd yn cynyddu y mwya' grymus gallwn fod yn y farchnad drosglwyddo a'r gorau y gallwn berfformio o flaen ein cefnogwyr."









Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy