|
Sunderland 2-1 Caerdydd
26 Chwefror 2005
Tra bod y canlyniad yn gadael Caerdydd mewn safle bregus tua gwaelodion y Bencampwriaeth, mae Sunderland yn esgyn i'r ail safle.
Gary Breen roddodd Sunderland ar y blaen, gyda'i ergyd yn curo Neil Alexander o groesiad Andy Welsh.
Aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen ychydig cyn yr egwyl wrth i Marcus Stewart rwydro o groesiad Dean Whitehead.
Sgoriodd Tony Vidmar i roi llygedyn o obaith i'r Adar Gleision ond llwyddodd Sunderland i sicrhau'r pwyntiau ac i rwbio halen yn briw cafodd Alan Lee ei hel o'r maes am ddefnyddio ei benelin yn y munudau olaf.

|