bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Protest yn difetha'r marathon

29 Awst 2004

Llwyddodd Stefano Baldini o'r Eidal i ennill y fedal aur yn y marathon i'r dynion ond cafodd ei fuddugoliaeth ei gysgodi wedi protestiwr ymosod ar un o'r athletwyr.

Y gŵr o Frasil, Vanderlei de Lima, oedd ar y blaen yn y ras gyda mantais gyfforddus cyn i'r protestiwr ymddangos pedwar milltir o'r diwedd.

Yn fuan wedyn, llwyddodd Baldini i fynd heibio de Lima ac ennill mewn amser o ddwy awr 10:54 eil.

Yr Americanwr, Mebrahtom Keflezighi, gafodd yr arian gyda de Lima yn casglu'r efydd.

Roedd siom i Jon Brown o Brydain wrth iddo orffen yn bedwerydd, yr un safle â phedair blynedd yn ôl yn Sydney.

Cafodd y protestiwr, oedd yn gwisgo kilt coch a beret gwyrdd ac yn dal baner â'r geiriau "Israel i gwblhau'r proffwydoliaeth medd y beibl, mae'r ail ddyfodiad yn nesau," ei arestio'n syth.

Ymddengys mai Cornelius "Neil" Horan yw'r protestiwr, cyn offeiriad, lwyddodd i amharu ar Grand Prix Prydain. Cafodd ei ddedfrydu i ddau fis o garchar wedi ei brotest yn Silverstone.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r dyn yn dweud ei fod yn Wyddel, mae o wedi meddwi. Roedd wedi bod mewn taverna yn gynharach. Mae'r heddlu yn mynd trwy ei stwff."

Roedd y ras yn un araf yn y gwres cyn i Hendrick Ramaala dorri'n rhydd wedi 10-milltir.

Ond roedd yn rhy gynnar i'r gŵr o Dde Affrica a disgynodd yn ôl wedi'r gweddil ei ddal ac yna aeth de Lima i ffwrdd ar ben ei hun wedi 13 milltir.

Roedd yn gyfforddus ar y blaen hyd at 22-milltir pan gafodd ei daflu i fewn i'r ffens gan y protestiwr.

Ond roedd wastad yn ymddangos fel bod Baldini am ei ddal ond roedd y digwyddiad yn help mawr i'r Eidalwr.

Unwaith roedd ar y blaen nid oedd Baldini yn debygol o gael ei ddal er holl ymdrechion Keflezighi.

Llwyddodd de Lima i ddal ymlaen am yr efydd i foddhad y dorf enfawr yn Stadiwm Panathinaiko oedd wedi gwylio'r digwyddiad ar sgrîn fideo.

Wedi'r digwyddiad, dywedodd de Lima: "Roedd yn hurt ar y cwrs, roedd yn ddrwg. I mi, roedd yn ddrwg iawn, iawn."






Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy