bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Aur yn y 4x100m

Tîm Cyfnewid 4x100m Prydain

28 Awst 2004

Llwyddodd Mark Lewis-Francis o Brydain i gadw ar y blaen i'r Americanwr, Maurice Greene, ar y cymal olaf o'r ras gyfnewid 4x100m a chipio medal aur anhygoel.

Roedd y tîm o Jason Gardener, Darren Campbell, Marlon Devonish a Lewis-Francis yn wych wrth gyfnewid y baton gan drechu America o drwch blewyn.

Gorffenodd y pedwar mewn amser o 38:07 eiliad gyda America canfed eiliad tu ôl i Brydain. Nigeria gafodd yr efydd mewn amser o 38.23 eiliad.

Dioddefodd ras America wrth i Justin Gatlin a Coby Miller gyfnewid yn flêr.

"Mae wedi bod yn emosiynol," meddai Campbell, sydd wedi cael ei feirniadu gan un o gewri'r byd athletau, yr Americanwr, Michael Johnson.

"Rwyf wedi ceisio gadael fy nhraed siarad."

Cymrodd Gatlin, pencampwr y 100m, y baton gan pencampwr y 200m, Shawn Crawford, ond roedd yn flêr iawn wrth ceisio pasio'r baton ymlaen i Miller gan adael Prydain ar y blaen gyda un rhedwr i ddod.

Mark Lewis-FrancisRoedd perfformiad Lewis-Francis, fethodd â chyrraedd rownd derfynol y 100m unigol, yn wych wrth iddo orffen ar y blaen i Greene, gasglodd y fedal efydd yn y 100m unigol.

Dyma fedal aur cyntaf Prydain yn y ras gyfnewid ers 1912.

Bu bron i Brydain gael eu gwahardd o'r rownd gynderfynol wedi cyfnewid blêr ar y trydydd cymal, ond mynodd Lewis-Francis fod ysbryd y tîm wedi eu gwthio ymlaen.

"Gyda'r ysbryd yn y tîm roeddem yn gwybod bod modd dod yn ôl yn gryfsch a rydym wedi profi fod pawb yn anghywir," meddai.

"Dyma'r peth gorau sydd wedi digwydd i mi yn fy mywyd. Roeddwn yn gwybod fy modi ennill yr eiliad cefais y baton."

Ychwanegodd Gardener, redodd y cymal cyntaf: "Rwyf wedi gwireddu breuddwyd. Roedd gennym ffydd yn ein gilydd. Allai'm cymryd popeth i fewn ar y funud."

Dywedodd Greene: "Rhoddais popeth i fewn i'r ras, ond rhoddodd Prydain coblyn o sioe."

Roedd siom i wibio Prydeinig wrth iddynt fethu â chael cynrychiolydd yn rowndiau terfynol y 100m neu'r 200m yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers 1976.

Llwyddodd Prydain i ennill y fedal arian tu ôl i America ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2003 cyn colli'r medalau wedi Dwain Chambers fethu prawf cyffuriau.

Mae America wedi ennill y ras gyfnewid 15 allan o'r 20 tro mae'r ras wedi ei redeg, heb gynnwys Gemau Moscow ym 1980 pan fu boicot gan yr Americanwyr.






Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy