|
Iraq 1-3 Paraguay
24 Awst 2004
Rhoddodd Paraguay ddiwedd ar stori tylwyth teg Iraq â buddugoliaeth 3-1 yn rownd derfynol y pêl-droed i ddynion.
Rhwydodd yr ymosodwr Jose Cardozo, ddwywaith ac ychwanegodd Fredy Bareiro drydedd wedi 68 munud cyn i'r eilydd Razzaq Farhan sgorio gôl gysur hwyr.
Bydd Paraguay yn wynebu'r Ariannin yn y rownd derfynol wedi'r Archentwyr chwalu Yr Eidal 3-0.
Fe all Iraq gipio eu hail fedal Olympaidd erioed os ydynt yn llwyddo i drechu'r Eidalwyr yn y gêm am y fedal efydd ddydd Gwener.
"Mae dal yn beth mawr i ni i chwarae am y trydydd safle a cheisio ennill y fedal efydd," meddai hyfforddwr Iraq, Adnan Hamd. Daeth unig fedal arall Iraq yn y Gemau Olympaidd yn Rhufain ym 1960 wrth iddynt gasglu efydd yn y codi pwysau.

|