bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Croft yn arwyddo

20 Medi 2005

Mae capten Morgannwg, Robert Croft, wedi arwyddo cytundeb fyddai'n ei gadw ar Erddi Soffia hyd at 2008.

Disgynnodd y sir Gymreig o Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd wedi colli 14 o'u 16 gêm, ond mae Croft yn benderfynol o newid pethau.

Dywedodd y troellwr 35-mlwydd-oed: "Mae fy nghalon ym Morgannwg a bydd yno am y tair blynedd nesaf.

"Mae gennym her i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr a rwy'n edrych ymlaen at hynny."

Ychwanegodd Croft: "Mae wedi bod yn flwyddyn anodd ond rwy'n dal i fwynhau chwarae.

"Petawn yn gallu cyrraedd 1,000 wiced ac efallai 12,500 rhediad byddai'n dda gan fod ceisio am nod o'r fath yn eich helpu allan o'r gwely yn y bore.

"Ond mae yr un mor bwysig sicrhau llwyddiant i Forgannwg eto."

Cadarnhaodd Croft fod Morgannwg eisoes wedi siarad ag ambell i chwaraewr gyda'r gobaith o'u harwyddo ar gyfer y tymor newydd.

Dywedodd: "Mae Matt Elliott eisoes wedi arwyddo a byddwn yn trafod â Mike Kasprowicz cyn bo hir.

"Rydym hefyd wedi bod yn siarad â chwaraewyr Prydeinig.

"Ni fyddai'n deg rhoi enwau ar hyn o bryd - ni fyddai'n deg gan nad wyf wedi siarad â gweddill y tîm eto. Nhw fydd y cyntaf i gael gwybod."

Daeth tymor siomedig Morgannwg i ben â cholled o 75 rhediad yn erbyn Hampshire sydd yn golygu fod y sir wedi colli bob gêm ar Erddi Soffia am y tro cyntaf yn eu hanes.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy