|
Kasprowicz yn colli ei le
20 Medi 2005
Mae Damien Martyn, Jason Gillespie a Michael Kasprowicz wedi colli eu lle yn nhîm Awstralia ar gyfer eu Prawf yn erbyn XI Gweddill y Byd fis nesaf.
Bydd Shane Watson neu Brad Hodge yn cynryd lle Martyn yn yr XI ar gyfer y gêm yn Sydney rhwng 14-19 Hydref.
Cafodd Gillespie a Kasprowicz gyfres siomedig â'r bêl yn ystod Cyfres y lludw ac mae'r dewiswyr wedi cadw ffydd yn Shaun Tait.
Cadwodd Matthew Hayden ei le yn y tîm Prawf ond mae wedi colli ei le yn y tîm un dydd.
Dywedodd cadeirydd y dewiswyr, Trevor Hohns, fod angen gwneud newidiadau wedi'r gyfres yn loegr, ond mynodd nad oedd gyrfaoedd Prawf Martyn, Gillespie a Kasprowicz drosodd.

|