bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Vaughan yn targedu Cwpan y Byd

14 Medi 2005

Ennill Cwpan y Byd yn 2007 yw nod tîm criced Lloegr yn ôl eu capten Michael Vaughan, wedi eu llwyddiant yn y gyfres Lludw.

Nid yw'r tîm undydd wedi perfformio gystal â'r tîm prawf, ac meddai Vaughan mai dyma'r yw'r her nesaf.

"Mae'r tîm undydd ychydig o dan lefel y tîm prawf ar hyn o bryd ond rydym yn adeiladu tuag at 2007 a Chwpan y Byd," meddai Vaughan.

Ychwanegodd capten Lloegr fod ei chwaraewyr yn meddu hunan gred, er colli'r prawf cyntaf cyfres y Lludw, gan fynd yn eu blaenau i ennill o 2-1.

"Bu llawer o bobl yn chwerthin pan y soniwyd y gallai Lloegr ennill cyfres y Lludw ac wedi i ni golli'r prawf cyntaf doedd pobl ddim yn meddwl fod llawer o siawns gyda ni.

"Fel tîm a chwaraewyr, yr oedd gennym yr hunan gred y gallwn drawsnewid pethau, ac rydym yn credu y gallwn wneud yn dda yng Nghwpan y Byd yn 2007 - dyna pryd fydd pobl yn ein barnu."

Trechwyd tîm undydd Lloegr gan Awstralia yng Nghyfres NatWest yn gynharach yn yr haf, yn ogystal a cholli yn rownd terfynol Tlws Pencampwyr yr ICC mis Medi'r llynedd.

Cynhelir Cwpan y Byd 2007 yn India'r Gorllewin, pan fydd Awstralia yn amddiffyn eu coron.









Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy