Deg Nadolig Lisa Gwilym

Dyma 10 o fy hoff ganeuon Nadoligaidd i. Tydyn nhw ddim mewn unrhyw drefn, a dwi'n siwr y bydda i wedi newid fy meddwl erbyn fory... A deud y gwir, be am cân Mr Huw - Dolig (S'am Amser Gwaeth i Farw)? Cofion, Lisa xx

1. Meic Stevens - Noson Oer Nadolig (Sain, 1985)

Lapis Lazuli

Mae'n newis cynta' fi'n eitha amlwg, mae'n ddrwg gen i, ond fysa 'Dolig ddim yn Ddolig yng Nghymru heb y gân yma. Yn wahanol i lot o'r caneuon Nadolig cawslyd, llawn effeithia sain, ma hon yn syml (gitar, telyn ac allweddella') ac yn deimladwy - Meic ar ei ore. Fe gafodd y gân ei rhyddhau yn wreiddiol ar y caset Lapis Lazuli yn 1985 - ac ma na gân arall yr un mor brydferth ac enwog ar yr album - 'Erwan'.

2. Frizbee - O Na! Mae'n Ddolig Eto

Frizbee

Mae gen i reswm personol iawn dros ddewis y gân yma - achos mai ar fy rhaglen i ar C2 y clywyd hi am y tro cyntaf erioed! Mi oeddwn i wedi gwahodd Frizbee i wneud sesiwn cyn y Nadolig i roi pawb yn hwyl yr wyl, a chwara teg i'r hogia, wanethon nhw ddim ein siomi ni! Dwi'n cofio Ywain Gwynedd y canwr yn trio gorffen sgwennu geiriau'r gân yn y stiwdio ac yn holi "be ydy 'butterflies' yn dy stumog" yn Gymraeg?" Nes i a'r cynhyrchydd ateb "cnonod" - fe gam-glywodd Ywain, felly ma' 'na linell yn y gân "hefo nionyn yn dy fol..."!

3. Datblygu - Ga I Fod Sion Corn (Ankstmusik, 1991)

Blwch Tymer Tymor

Wn i ddim os ydy hon yn gân Nadoligaidd go iawn...ond ma hi'n saith munud a hanner o Datblygu ar eu gora! Fe gafodd y gân a'r album 'Blwch Tymer Tymor' eu recordio yn Stiwdio Ofn, Ynys Môn, a dim ond mil o gasets gafodd eu gwneud gan Ankst yn 1991.

Dwi hefyd am roi sylw sydyn yn fama i 'Stwffiwch Y Dolig, Nid Y Twrci' gan Yr Anhrefn - sengl ar gaset!

4. Ryan Davies - Nadolig Pwy a Wyr

Ryan Davies

Hon ydy'r 'White Christmas' Cymraeg am wn i - y clasur fytholwyrdd. Mae llais Ryan yn anhygoel, ac mae'r gân, yn ogystal a llwyddo i swnio fel carol ganrifoedd oed, yn ticio bocsus cân bop Naoligaidd - plant yn canu; clychau yn y cefndir; cytgân fachog. Mae'r gân yma'n fwy Nadoligaidd na thwrci a mins peis.

5. Ryan Kift - 3 Gŵr Noeth (2007)

Ryan Kift

Ma hiwmor yn un o gyfrinachau llawer i gân Nadolig lwyddianus, ac ma Mr Ryan Kift yn feistr ar sgwennu caneuon ffraeth sy'n rhoi gwen ar wynebau!

Mae gen i reswm i gofio y gân yma'n benodol hefyd; pan oedd Kifty yn ei lansio hi, fe ddaeth o draw i'r stiwdio i roi copi i mi, wedi ei wisgo fel Sion Corn!

6. Colorama - Cerdyn Nadolig (See Monkey Do Monkey, 2010)

Colorama - Cerdyn Nadolig

Dwi newydd gael fy nghopi o sengl Naolig newydd Colorama - 'Cerdyn Nadolig' ac mae'r clawr/pecyn i'r CD yn glyfar iawn achos mae o'n dod ar ffurf... cerdyn Nadolig!

Mi gafodd y gân ei recordio yn wreiddiol fel sesiwn i C2, ac fel y ffefryn Dere Mewn, ma hi'n gan ciwt, hyfryd! Mae dwy gân arall ar y sengl - fersiwn o Lisa Lân gafodd ei recordio ar gyfer rhaglen 'Trac' Radio Cymru, a fersiwn fyr o 'Canol Gaeaf Noethlwm' oedd yn rhan o gyngerdd Naolig C2 yn 2009.

7. Geraint Lovgreen - Nadolig Yn Nulyn (Sain, 1997)

Ryan Kift

Mae hon yn un arall o'r clasuron sy'n rhaid eu chwara wrth i ni nesau at y Nadolig, ac ma hi dal ar gael i'w phrynu ar y casgliad 'Geraint Lovgreen 1981-1998'.

Ma hi'n dechra'n reit dyner ac araf deg (ac mae'r penillion yn parhau felly) ond mae'r gytgan yn atgoffa rhywun o jig Gwyddelig, ac yn llawn hwyl y Nadolig. Mae geiriau'r diweddar Iwan Llwyd yn wych - yn creu darlun byw o'r Nadolig yn Nulyn.

8. Gwyneth Glyn - Dolig Du (Sain, 2010)

101 o Garolau a Caneuon Nadolig Sain

Dyma gân Nadolig yn arddull Canu Gwlad, ble ma Gwyneth yn plethu hiwmor tywyll ac arddull canu gwlad i gymryd golwg go wahanol ar y Nadolig - "...a mae'n anodd dal i gredu pan sna'm byd ar y teledu ond araeth Liz a'r ffilm am y Dolig Gwyn". Mae'r twrci wedi llosgi, mae'r cracyrs yn rhai sal... ond, ac mae yna ond... "sa'n Nolig i yn wyn swn i hefo chdi"!

9. Gareth Bonello - Rhyfeddod Ar Foreddydd (Anhrefn Records, 2009)

Never Mind The Bollocks... Here's The Plygain

Mi wnaeth Rhys Mwyn greu dipyn o stŵr pan driodd o greu fersiwn 'modern' o'r Plygain. Fe wahoddodd o artistiaid fel Lleuwen, Brigyn a 9 Bach i ail-ddehongli caneuon y Plygain, ac i mi, fe weithiodd yr arbrawf yn rhyfeddol.

Mae'r caneuon ar gael ar iTunes ac enw'r casgliad ydy 'Never Mind The Bollocks... Here's The Plygain'! Rhys Mwyn ar ei ore - yn creu stŵr, ie, ond hefyd yn dod a sylw at draddodiad difyr a gwerthfawr.

10. Y gweddill.....

Ma na le am wn i adeg y Nadolig i chydig o 'gaws'! Dwi'n licio clywed Wham! - White Christmas bob Nadolig, ac ma na ambell gân Gymraeg yn y categori yma; petha fel Pheena - Hei Bawb Nadolig Llawen!, Skep - Nadolig Llawen Cymru, Mynediad Am Ddim - Dymunwn Nadolig Llawen a Gwibdaith Hen Fran - Can Y Sanna.

Ma na hefyd ganeuon neis fel Ryland Teifi - Bachgen Yn Y Dyn (sesiwn i fy rhaglen Sul) ac Alun Tan Lan - Noswyl Nadolig, sy'n braf iawn eu clywed bob blwyddyn.

Ond beth bynnag ydy'ch chwaeth cerddorol chi, beth bynnag ydy'ch hoff gân Nadoligaidd chi - Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd dda i chi i gyd gen i a chriw C2!


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.