
Grŵp o'r gorllewin sy'n adnabyddus am albyms gwych yn cyfuno seicadelia a cherddoriaeth electronig
- Matthew Durbridge: Llais, gitar, electronics
- Gareth Richardson: Gitar
- Rhun Lenny: Bas
- Owain Jones: Drymiau
- Kris Jenkins: Offerynnau taro, electronics
- Iwan Morgan: Electronics
- Phil Jenkins: Drymiau
Ymddangosodd Zabrinksi o nunlle yn 2000 wrth ryddhau'r albwm Screen Memories, a hawlio sylw yn syth. Mae'r record yn aeddfed, hyderus ac yn gyfuniad o bop seicadelig law yn llaw ag elfennau o'r llawr ddawns a'r byd electro-arbrofol.
Roedd Zabrinksi yn ran o genhedlaeth newydd a ysbrydolwyd gan grwpiau fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a Topper ond roedd eu cerddoriaeth hefyd yn cynnig rhywbeth unigryw.
Ar eu gorau yn y stiwdio, mae'r albyms Yeti (2001), Koala Ko-ordination (2002) a Ill Gotten Game (2005) yn llawn dyfeisgarwch, melodi a chynhyrchu beiddgar.
Roedd cnewyllyn cynnar y grŵp yn cwmpasu Matthew Durbridge, Iwan Morgan a Gareth Richardson, a ddaeth at ei gilydd tra'n yr ysgol. Hwyrach ymlaen mi fuodd Iwan gadael a Kris Jenkins ymuno.
Ar senglau fel Freedom of The Hiway, Executive Decision, a Feeding on our Filth, roedd Zabrinksi yn creu cerddoriaeth indie-pop naturiol, bachog, yn llawn soffisdigeiddrwydd yn y trefniant a cynhyrchu. Enillodd Executive Decision y wobr am sengl y flwyddyn yng nghylchgrawn enwog Record Collector yn 2003, hyd yn oed.
Mae adolygiadau am waith stiwdio y grŵp yn gwbl bositif, efo newyddiadurwyr roc yn cymharu'r grŵp i enwogion fel Flaming Lips, Super Furry Animals, Aphex Twin, Primal Scream a'r Beach Boys. Ond hwyrach mai'r gallu yma i "wneud i eclectigiaeth feiddgar swnio'n hawdd" oedd yn golygu bod eu cerddoriaeth heb gyrraedd marchnad ehangach.
Er iddynt deithio dros Brydain gyda'r Super Furry Animals a recordio sesiynau ar gyfer Huw Stephens a John Peel ar Radio 1, daeth y grŵp i ben yn 2007.
Emyr Williams
Newyddion
Zabrinski a'r Ffyrc ar Daith!
18 Awst 2006
Zabrinski a'r Ffyrc ar Daith!
18 Awst 2006
Taith Zabrinski a Ffyrc
16 Awst 2006
Adolygiadau

Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.