Topper

Topper

Pop amryliw, aml-weadol ac anhygoel.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Band a fwrwodd ffrwyth yn anterth cyfnod 'cŵl Cymru', roedd hi'n anochel fod Topper yn mynd i swnio'n debyg i'w cyfoedion. Wrth dyfu fyny yn gwrando ar gerddoriaeth Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia, a gigio gyda nhw yn hwyrach, wnaeth y band ddim ymdrech i guddio'u hedmygedd tuag at eu harwyr.

Wedi dweud hynny, mae caneuon fel Cwpan Mewn Dŵr a Gwefus Melys Glwyfus yn profi fod y band yn gallu cyfansoddi caneuon cystal os nad gwell na'r bandiau uchod.

Aelodau

  • Dyfrig Evans
  • Iwan Evans
  • Gwion 'Gysglyd' Morus
  • Peter Alan Richardson
  • Sion 'The King' Glyn

Yn 1992 tra bod pawb arall yn ngwersi bywydeg Winston Halliday yn dysgu am ffotosynthesis, roedd Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans yn siarad am y Beatles, y Beach Boys a Gram Parsons. Penderfynodd y tri gychwyn band (roedd Pete a Dyfrig wedi bod yn jamio gyda'i gilydd yn barod - darganfyddodd Dyfrig fod Pete yn chware dryms ar ôl i'w frawd Dyl 'Wini' Evans fynd i dŷ Peter i brynu gitar), ac ar ôl dewis yr enw Paladr, aeth y tri ati i ymarfer a chwilio am gigs.

Un dydd wrth grwydro goridorau'r ysgol yn gwrando ar Slanted and Enchanted, albwm gynta band newydd o America o'r enw Pavement ar ei Walkman, clywodd Winston Halliday storm o gitars 'jangly' a melodïau pop yn llifo o ddrws ystafell cerdd yr ysgol. Prin fod Mr Halliday yn coelio'r hyn roedd yn ei glywed, a chynigiodd rheoli'r grwp yn syth.

Roedd yr undeb yn un perffaith gyda Halliday fel rhyw fath o Epstein Cymraeg (ond efo gwybodaeth gwell am rannau atgenhedlu blodau) yn trefnu llu o gigs lleol i'r grŵp.

Erbyn 1994 roedd y band wedi crefftio set cryf o ganeuon, ac aeth y prif ganwr Dyfrig ar brofiad gwaith i swyddfeydd Ankst oedd ym Mhenygroes ar y pryd. Ar ddiwedd yr wythnos roedd y bachgen ifanc wedi gwneud ffrindiau da gyda thîm Ankst ac yn araf bach dyma'r grwp yn gwario llai o amser gyda Mr Halliday a mwy o amser yn swyddfeydd Ankst.

Blwyddyn yn ddiweddarach rhoddod Paladr eu cân gynta ar record 7", sef Dwi'm yn gwbod. Pam?, ar gasgliad aml-gyfranog gan label Ankst o'r enw S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 1 oedd hefyd yn cynnwys caneuon gan y grwp arbrofol Ectogram, y band ifanc o Fethesda Rheinallt H Rowlands a grŵp newydd addawol oedd yn cynnwys cyn-aelodau o'r Cyrff a'r Crumblowers o'r enw Catatonia.

Ymddangoson nhw hefyd ar yr ail record yn y gyfres S4C Makes Me... yn 1996, ond y tro yma dan enw newydd, Topper.

Roedd y band yn amlwg wedi creu argraff ar Mark Roberts o Catatonia, a gynigiodd cynhyrchu EP cynta'r grŵp Arch Noa EP a'r albwm Something To Tell Her. Rhyddhawyd y ddau ar label Ankst yn yr un flwyddyn (1997), ac arnyn nhw yr esiamplau cynta o allu Dyfrig i sgrifennu caneuon fel 'bubblegum' melys bythol-flasus - sef y caneuon Gwefus Melys Glwyfus a Hapus.

Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen Mr John Peel a chychwyn ar eu taith cynta i hywryddo'r albwm Something... yn cefnogi Catatonia, a gydag aelod newydd - Gwion 'Gysglyd' Morus ar yr allweddellau.

Yn 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl gwych (un o fy ffefrynau personol), Cwpan Mewn Dŵr. Yna ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Os nag oedd yr albwm yma'n swnio'r un mor 'focussed' â Something To Tell Her falle bod hynny oherwydd fod gan y band rhybeth arall ar eu meddyliau - sef eu record nesa, Dolur Gwddw.

Recordiodd y grŵp yr albwm yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench (oedd hefyd wedi ymddangos gyda'r band ar S4C makes me...Vol2). Hon oedd albwm mwya uchelgeisiol y grwp, a ddaeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd pengoch o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.

Trwy gydol gyrfa'r band roedd y tebygrwydd sŵn rhyngddyn nhw â'r Gorky's yn amlwg. A gyda aelodau Topper i gyd yn ffans enfawr o'r band, doedd hynny ddim yn syndod. Felly mae'n rhaid fod penderfyniad Pete i ymuno â'i arwyr yn 2001, yn dilyn ymadawiad Euros Rowlands o'r Gorky's, yn newyddion poenus i'r band.

(Falle dylid nodi fan hyn fod Topper wedi dod i ben ar ôl i Pete adael, a fe hefyd oedd drymiwr ola'r Gorky's... cyd-ddigwyddiad? Pwy â ŵyr!)

Does dim dadlau fod Topper wedi gadael casgliad amryliw o ganeuon aml-weadol ac anhygoel ar eu holau - rhywbeth sydd i'w weld yn blwmp ac yn blaen ar y casgliad Y Goreuon O'r Gwaethaf ddaeth allan ar label Rasal yn 2005.

Huw Evans, o Gader yr Eisteddfod

Newyddion

Maes B - Maes Bangor

Tachwedd 7, 2005

Miri Madog 2005

10 Awst 2005

Miri Madog 2005

10 Awst 2005

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...

Sesiwn Unnos 5

Y bumed Sesiwn Unnos ar gyfer Radio Cymru gyda'r gantores Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog a Pete Richardson a Sion Glyn o'r Niwl. Y dasg: cyd-weithio i gyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau EP newydd mewn un noson.


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.