Advertisement

Sibrydion

Sibrydion

Prifweinidogion pop Cymru sy'n creu cerddoriaeth mwy sgleiniog na phêl disgo Caryl P Jones circa 82. Melodïau bachog, geiriau anthemig a chytganau sy'n treiddio i'ch isymwybod, adeiladu cegin a dechre coginio cacennau a'u bwydo nhw i'ch ymennydd. Petai 'na stadiwm ym mhob pentre yng Nghymru 'se'r Sibrydion di chwarae nhw gyd, ddwywaith.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ffurfiwyd y Sibrydion yn 2005 o lwch y Big Leaves pan benderfynodd y brodyr Gwynedd, Osh a Mei, barhau ar eu taith i ddosbarthu bachau bythgofiadwy i glustiau'r Cymry gyda'u cyfeillion newydd Rhys Roberts (gynt o Anweledig) a Dan 'Ffloss' Lawrence.

Rhwng rhyddhau Trwmgwsg ar label Crai yn 1998 ac Alien and Familiar yn 2003, teithiodd y Big Leaves ledled y wlad a chyrraedd anterth eu gyrfa gyda'r albwm Pwy Sy'n Galw yn y flwyddyn 2000 ar label Crai, gyda chaneuon fel Pryderus Wedd, Meillionen, Synfyfyrio a Seithenyn yn profi talent y ddau frawd i gyfansoddi caneuon pop crefftus.

Aelodau

  • Meilir Gwynedd: Gitar, llais
  • Osian Gwynedd: Allweddellau, llais
  • Rhys Roberts: Bas
  • Dan 'Ffloss' Lawrence: Gitar, llais
  • Dafydd Nant: Drymiau

Yn dilyn llwyddiant bandiau fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci tu hwnt i glawdd Offa, roedd gan sawl band yng Nghymru yn y cyfnod yma obsesiwn am lwyddiant yn y farchnad Saesneg (ystyriwch y cynnydd yn y nifer o grwpiau gydag enwau Saesneg ar ddiwedd y 90au).

Yn sydyn iawn doedd pobol ddim yn teimlo cywilydd cyfadde eu bod nhw am ganu'n Saesneg a thrio'i "gwneud hi" yn Lloegr. Doedd y Big Leaves ddim yn eithriad, ond er i Liam Gallagher ddweud mai'r gân Fine oedd ei hoff gân yn 2000, methodd y grwp greu digon o argraff ar y sin gerddorol rhyngwladol ac fe chwalodd yn 2003.

O bosib dyma sy'n gwneud sŵn y Sibrydion mor arbennig: gyda'r stigma o drio gwerthu recordiau i'n cymdogion estron wedi mynd, roedd y band yn swnio'n fwy hyderus, ac hefyd yn swnio fel petae'r brodyr jysd yn cael hwyl yn recordio.

Mae'r hwyl i'w glywed yn amlwg ar Blithdraplith - cân sy'n swnio fel ceffyl wedi'i wneud o hen kazoos yn carlamu trwy dwnel tanddearol i ddianc o wersyll carcharorion yn yr ail rhyfel byd.

Dilynodd y band yr albwm Jig Cal yn 2005 gyda Simsalabim (y ddau ar un o ganghennau asgell-chwith Sain, Rasal) yn 2007. Trwy ychwanegu Dafydd Nant (sydd hefyd yn aelod o Bob, ac efo Osh a Mei yn The Peth) ar y drymiau, roedd Osh yn rhydd i chwarae'r allweddellau, a magodd sŵn byw y band fwy o bwysau na'r hen fenyw 'na nath fyta pry, prycopyn, aderyn, cath, ci a chibab.

Roedd y brodyr unwaith eto yn eistedd yn hapus ar ben tŵr caws mawrion canu cyfoes Cymraeg.

Ond yn wahanol i'r tro diwethaf iddyn nhw fod ar y cader Caerffili yma, llwyddodd y band lle fethon nhw'r tro cynta pan ryddhawyd Campfire Classics ar label eu hunain, Delloroso, yn 2009.

Roedd cefnogaeth y wasg Brydeinig yn syfrdanol, gyda'r Times yn eu dewis fel cryno ddisg yr wythnos ac yn glafoerio "[Campfire Classics] kicks off with some spaghetti-western guitar - introducing another of the band's musical reference points - before exploding into the souped-up pop of Coupe de Grace (complete with delicious la-la-las) and the 1970s Beach Boys sound of Desperados, with honky-tonk piano, gloriously inappropriate fuzz guitar and a gorgeous, yearning chorus: 'This feeling - will it ever let me go?'".

Dywedodd y Guardian, "...an ultra-melodic Crazy Horse, an appealing blend of bubblegum and country... Lively and lovely", a'r Word yn clodfori "[a] peach of a record... the brothers decidedly gifted when it comes to strong tunes and neat arrangements."

Gyda'r peiriant pop Gwynedd yn annhebyg o redeg allan o stêm yn fuan, mae'n siwr fydd na ddigonedd o ddefaid du, chiwawas a cheffylau kazoo yn cyrraedd ein clustie ni'n 'o fuan.

Huw Evans, o grombil morfil ym Môr yr Iwerydd

Newyddion

Taith Sibrydion

25 Medi 2007

Cân newydd y Barf!

Gorffennaf 20 2007

Albym newydd Sibrydion

07 Mehefin 2007

Sesiynau

Sibrydion

25 Hydref 2007

Sesiwn acwstig ar gyfer C2 - a fideo ohonyn nhw yn y stiwdio yn recordio un o'r traciau

Adolygiadau

Adolygiad CD

10 Chwefror 2009

Beth yw barn yr adolygwyr am Sibrydion - Campfire Classics?

Sibrydion

Awst 06, 2007


A - Z Artistiaid

Pori gwefan Cerddoriaeth

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae pryd, ac yn lle? Edrychwch ar restr gigs C2!

BBC Wales Music

Tom Jones

More from the Land of Song

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.