Siân James

Siân James

Ganed yn Llanerfyl, Sir Faldwyn yn 1961 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth, ac ennill cymhwyster dysgu.

Fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig, ac fe'i trwythwyd yn y pethe o oedran cynnar. Dechreuodd gystadlu a chymryd rhan mewn eisteddfodau pan oedd ond yn dair oed, a dysgodd i ganu'r piano yn chwech oed, y feiolin yn wyth oed a'r delyn yn un ar ddeg oed. Cyn ei bod yn ddeunaw, roedd wedi dechrau perfformio'n fyw ar lwyfan gyda'i dehongliad o ganeuon gwerin Cymraeg, ynghyd â chyfansoddiadau ei hun - arwydd clir o'r hyn oedd i ddod.

Tra yr oedd yn y coleg, datblygodd ei diddordeb mewn cyfansoddi o dan ddylanwad ei thiwtor a'r cyfansoddwr enwog, William Mathias. Yn yr un cyfnod, ffurfiodd y band gwerin Bwchadanas gyda chriw o ffrindiau. Rhyddhawyd un albym 'Cariad Cywir', sy'n gyfuniad bywiog o arddulliau gwerin a roc.

Ym 1990, rhyddhaodd Siân James ei halbym unigol cyntaf, 'Cysgodion Karma' sy'n gymysgedd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol ac roedd ei hail albym 'Distaw' yn cynnwys caneuon gwreiddiol yn bennaf, ond roedd unwaith eto yn cynnwys dehongliadau ei hun o ganeuon gwerin traddodiadol. Traddodiadol yn unig oedd 'Gweini Tymor' a ryddhawyd yn 1996, ond roedd y nesaf 'Di-gwsg' yn ganeuon gwreiddiol mewn arddull Geltaidd. Comisiynwyd ei phumed albym 'Birdman' fel trac sain i gyfres chwe rhaglen gan BBC 2 o'r un enw. Mae'r casgliad 'Pur' (2001) yn fwy o adlewyrchiad o'i pherfformiadau byw, gan mai dim ond llais a thelyn a glywir. Rhyddhawyd ei 7fed albwm yn 2005, sef 'Y Ferch o Bedlam'.

Fel rhan o'r grŵp Bwchadanas ac fel perfformiwr unigol, mae Siân James wedi teithio yn helaeth o amgylch o byd, gan chwarae mewn gwyliau a chyngherddau yn y gwledydd Celtaidd, Ffrainc, Sbaen, Gogledd America, Japan a'r Iseldiroedd. Mae cryn ddiddordeb yn ei gwaith ar lefel ryngwladol, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr adfywiad mewn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng ngogledd America.

Bydd Siân James yn adnabyddus i wylwyr S4C hefyd fel actores mewn ffilmiau fel Y Dylluan Wen a chyfresi fel Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod hefyd, lle gwahoddodd artistiad gwerin rhyngwladol fel The Saw Doctors a Capercaillie i gymryd rhan, arwydd o'r parch sydd ati yn y cylchoedd gwerin a chanu Celtaidd.

Gyda'i llais clir, melys, sy'n offeryn amryddawn ynddo'i hun, ar adegau yn gorwynt o gryf, dro arall yn gysurlon o dyner, go brin ein bod wedi clywed hanner yr un sydd gan y berfformwraig dalentog hon i'w gynnig. Sian James, yn anad neb arall, yw wyneb canu traddodiadol Cymreig yng ngolwg y byd, a bydd yn ddiddorol gweld dros y blynyddoedd nesaf i ba gyfeiriad yr aiff yn gerddorol a phroffesiynol.

Mae Siân hefyd yn arweinydd Parti Cut Lloi, criw o ddynion yn Sir Drefaldwyn sy'n diddanu cynulleidfaoedd yn canu alawon gwerin a pherfformio sgetsys byrion mewn neuaddau pentre' ledled Cymru.

Yn 2007, fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anhrydedd gan Brifysgol Bangor. Yn 2011 cyhoeddodd ei hunangofiant, Sian James a gyrhaeddodd frig y siartiau gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru.

'Sian James' (Cyfres y Cewri)

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.