Cerddoriaeth gwerin fodern sydd yn mynd a bryd y gantores Lowri Evans o Drefdraeth, Sir Benfro.
Ers graddio, mae Lowri wedi bod wrthi'n brysur yn rhyddhau recordiau ac yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Bellach yn ffigwr amlwg yn y sîn gwerin traddodiadol mae'n ymddangos yn gyson ar lwyfannau prif wyliau Cymru a thu hwnt gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Wychwood, Oxjam Caerdydd, Gŵyl Gwerin Priddy, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Cenhedloedd Bychain, Gŵyl Acwstig Prydain a'r Llangollen Fringe.
Cafodd ei halbwm gyntaf Clyw Sibrydion ei ryddhau o dan label Rasp yn ystod 2006.
Ers hynny mae Lowri wedi rhyddhau dwy EP yn y Gymraeg sef Dim Da Maria a Disgleirio.
Yn 2010 cafodd Lowri ei enwebu ar gyfer 'artist benywaidd y flwyddyn' yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru.
Ffion Angharad Williams
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r BBC
Cysylltiadau Rhyngrwyd
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.