Linda Griffiths

Linda Griffiths

Yn enedigol o Fferm Pen Bryn rhwng Meifod a Phont Robert, fe'i ganed yn y Trallwng, a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Pontrobert ac Ysogl Uwchradd Llanfair Caereinion. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd y Gymraeg ac Addysg.

Ffurfiodd y grŵp gwerin Plethyn gyda Jac a Roy yn ei harddegau, a'r grŵp hwn fu prif gyfrwng ei llais pur a naturiol am flynyddoedd lawer. Nodweddwir eu harddull gan barch at draddodiad y plygain, a sylw i alaw draddodiadol a chynghanedd gerddorol, a chanu soniarus di-ymdrech. Hanner y stori yw'r canu, fodd bynnag, gan fod Plethyn hefyd, drwy eu caneuon yn adrodd straeon am eu hardal genedigol a'i chymeriadau, a hynny mewn ffordd hyfryd o ddi-sentiment.

Yn anad unrhyw grŵp arall o unrhyw ran arall o Gymru, mae modd cyplysu llais Linda a harmoneiddio Plethyn gyda darn o dir ac ymdeimlad o le arbennig, a bro Maldwyn yw hwnnw, wrth gwrs.

Rhyddhaodd Plethyn naw casgliad, ac maent yn cynnwys 'Blas y Pridd', 'Golau Tan Gwmwl', 'Rhown Garreg ar Garreg', 'Teulu'r Tir', 'Caneuon Gwerin i Blant', 'Byw a Bod', 'Drws Agored', 'Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl' a 'Seidir Ddoe'. Rhyddhawyd 'Goreuon Plethyn' yn Eisteddfod Maldwyn yn 2003.

Ar ei liwt ei hun, rhyddhaodd bedwar casgliad, sef 'Amser' (1988), 'Plant y Môr' (1993), 'Ôl ei Droed' (2003) a 'Storm Nos' (2009).

Yn anad neb arall, Linda Griffiths a Plethyn yw gwarchodwyr canu gwerin digyfeiliant traddodiadol Cymreig, gan lwyddo i symud y traddodiad ymlaen a pharchu ei hanfodion, a chydnabyddir ei phwysigrwydd yn yr adfywiad canu gwerin Celtaidd ym mhedwar ban byd.

Yn 2012 cafodd Linda Griffiths ei dethol i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.