John Cale

John Cale

Yn y dechrau

Rhyfedd meddwl fod y bachgen o Ddyffryn Aman wedi glanio'n Efrog Newydd y 60gau a datblygu'n un o'r eiconiaid mwyaf yn ei faes...

Ganwyd John Cale ar Fawrth 9 1942 yng Ngarnant ger Rhydaman. Yn fachgen ifanc, dangosodd dalent cerddorol amlwg a'r feiola oedd ei brif offeryn.

Enillodd ysgoloriaeth cerddoriaeth glasurol i Boston yn yr UD a dyma lle dechreuodd ei siwrne i enwogrwydd.

Ar ddiwedd 1963, gan ddefnyddio'r arian yn weddill o'i ysgoloriaeth, symudodd i Efrog Newydd i barhau gyda'i astudiaethau. Ymunodd ag ensemble LaMonte Young, 'The Dream Syndicate'. Daeth Cale yn ddilynwr yr 'avant garde' gyda diddordeb yng ngherddoriaeth 'microtonal' gan gymryd rhan mewn perfformiadau marathon o weithiau gan Erik Satie.

Yna daeth Lou Reed, y cerddor ifanc deinamig i'w fywyd a ffurfiodd y ddau y band The Velvet Underground. Gan chwarae'r gitar fas, y feiola a'r allweddau, Cale oedd yn gyfrifol am sain y 'drôn' a ddaeth yn nodwedd cyfarwydd o sain y band.

Ymddangosai'r drôn yn amlwg ar eu clasuron fel 'Venus in Furs' ac 'All Tomorrow's Parties'. Cafodd y band ei 'fabwysiadu' gan yr artist byd-enwog, Andy Warhol, wnaeth ddylunio clawr un o albymau'r Velvets, y banana unig, ddaeth yn ddelwedd byd enwog.

Symud o'r Velvets

Cale hefyd wnaeth adrodd stori ddirgelwch 'The Gift' ar ail albwm y band, 'White Light, White Heat' gyda'i lais dwfn a'i acen hanner Cymraeg, hanner Americanaidd. Ond fe wnaeth adael y band yn fuan wedi hyn, yn dilyn anghytuno gyda Reed am gyfeiriad cerddorol y Velvets. Dechreuodd yrfa fel perfformiwr unigol a chynhyrchodd albymau gwych i'r Stooges a chyn gantores y Velvets, Nico.

Roedd ei albwm unigol cyntaf, 'Vintage Violence' (1970) yn weddol draddodiadol ei naws ond roedd yr albwm nesaf, y 'Church of Athrax' oedd yn llawer fwy abstract yn fwy at ddant ei ddilynwyr. Dilynodd hyn gyda nifer o albymau amrywiol, yr 'Academy in Peril' oedd yn gerddorfaol ei naws a'r albwm enwocaf o'i waith, 'Paris 1919.' Cred llawer mai dyma ei waith gorau.

Yn 1974, arwyddodd i label Island gan ryddhau triawd o albymau roc. Yn ystod un o'i sioeau byw gwallgof, fe benderfynodd aelodau o'r band adael wedi i Cale ladd iar ar y llwyfan. Roedd yn dal i weithio fel cynhyrchydd talentog hefyd gan weithio gydag artistiaid fel Patti Smith (cynhyrchodd ei halbwm arobryn, 'Horses' yn 1975), Squeeze, Nico, Sham 69 a Brian Eno.

Canu Ffarwel

Ar ddechrau'r 80gau, rhyddhaodd nifer o recordiau unigol fel 'Honi Soit' oedd yn wleidyddol iawn a 'Carribean Sunset' oedd yn dangos mwy o ddylanwadau 'pop'. Ond roedd e'n dechrau sylweddoli na allai barhau gyda'i fywyd fel ag yr oedd e yn defnyddio cyffuriau ac yn gor-yfed. Yn 1985, dathlodd enedigaeth ei ferch, Eden Myfanwy, gyda photel o win a gram o cocein! Deallodd na allai gynnal ei dueddiadau roc a rol mwyach, a chymrodd saib o'r diwydiant cerddoriaeth.

Dychwelodd yn 1989 gyda 'Words for the Dying' ar label Opel oedd yn cynnwys barddoniaeth gan Dylan Thomas

Adfywiad

Roedd ei weithiau nesaf yn fwy poblogaidd: 'Wrong Way Up' gyda Brian Eno a 'Songs for Drella', teyrnged i Andy Warhol. Dyma aduniad i Cale a Lou Reed gyda'r ddau yn recordio gyda'i gilydd unwaith eto. Arweiniodd hyn at aduniad y Velvet Underground yn 1993 ond byr-hoedlog y bu.

Mae dylanwad Cale ar gerddoriaeth fodern yn sylweddol ac mae'n eicon i gerddorion 'alternatif'. Ond er iddo gael ei gamnol gan y beirniaid a gan gyd-gerddorion amyrwiol fel yr 'Happy Mondays', 'The Jesus Lizard', 'Mediaeval Baebes', 'Siouxsie and The Banshees' a 'Jennifer Warnes', nid yw'n enw byd-enwog yng nghylchoedd canol-y-ffordd fel Tom Jones dyweder.

Mae Cale wrth ei fodd yn abrofi fel dywed y Newyddiadurwr Celf, Jonathan Jones, amdano yn y Guardian:

"Mae arddull Cale yn amhosibl i'w ddiffinio, gan fod bron pob albwm yn cynnwys arbrofion a dylanwadau newydd..."

Ond mae e'n parhau i greu cerddoriaeth. Yn 2000 dychwelodd i Gymru i gymryd rhan yn y ffilm 'Beautiful Mistake' gan gydweithio gydag artistiaid Cymreig y dydd. Ym mis Mai 2003, rhydhaodd 5 trac ar EP i EMI ac yna cafwyd yr albwm nesaf, 'Hobo Sapiens'.

Fenis a thu hwnt

Yn 2009 cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru ym Miennale Fenis ac roedd ei waith ar gyfer yr arddangosfa yn heriol, yn llawn cerddoriaeth soniarus a golygfeydd o'i hen gynefin yng Ngarnant ac ardaloedd megis Chwarel lechi Dinorwig.

Esboniodd un o brif themau ei waith i'r Biennale:

"Y pwnc mawr i mi ydi sut y dois i golli fy iaith - a pham mai drwy'r Saesneg 'rydw i'n cyfathrebu ac nid trwy'r Gymraeg - sef yr iaith roeddwn yn siarad yn blentyn..."

Roedd yn waith wnaeth greu cryn siarad gyda'r beirniaid yn canmol ac yn beirniadu yn eu tro. Roedd golygfeydd o'r Cerddor yn profi artaith 'waterboard' yn y gwaith yn codi gwrychyn ambell un. Ond dyna John Cale. Ac wrth iddo ddathlu ei 70, mae e'n dal i berfformio, yn dal i herio ac yn dal i swyno.


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.