Jamie Smith's Mabon

Jamie Smith's Mabon. Llun: www.justsimon.com

Derbyniodd albwm ola Mabon, 'Live at the Grand Pavilion', dorreth o glod gan feirniaid... a gwobr Spiral Award am Albwm Offerynol Gorau 2010

Cerddoriaeth rhyng-Geltaidd sy'n arbrofi gyda ffurfiau a moddau cerddoriaeth Celtaidd a'u ffurfio'n rhywbeth newydd, beiddgar

Disgrifir cerddoriaeth 'Jamie Smith's MABON' fel cerddoriaeth byd, rhyng-Geltaidd, wreiddiol.

Wedi ei chyfansoddi gan Jamie Smith a'i dehongli gan chwech o gerddorion medrus, ysbrydolir y gerddoriaeth gan draddodiad y gwledydd Celtaidd.

Nid cerddoriaeth Gymreig mohoni, nac Albaneg na Gwyddelig; dyma gerddoriaeth rhyng-Geltaidd sy'n arbrofi gyda ffurfiau a moddau cerddoriaeth Celtaidd a'u ffurfio'n rhywbeth newydd, beiddgar.

O dan yr enw blaenorol 'Mabon', bu'r band yma'n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd ers dros ddeng mlynedd, gan chwarae cannoedd o gyngherddau mewn dros bymtheg o wledydd.

Yn agosach at adre, bu iddyn nhw chwarae yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddwywaith, mewn cyngherddau drwy Gymru, ac mewn nifer o wyliau adnabyddus yn Lloegr gan gynnwys Caergrawnt, Cropredy, Towersey a Sidmouth.

Derbyniodd albwm ola Mabon, 'Live at the Grand Pavilion', dorreth o glod gan feirniaid, ymateb cadarnhaol iawn gan ffans hen a newydd, a gwobr Spiral Award am Albwm Offerynol Gorau 2010.

Dan faner newydd 'Jamie Smith's MABON', dechreuodd y band 2011 gyda chyngerdd gwefreiddiol yng ngwyl adnabyddus Celtic Connections yn Glasgow, ac mae llond blwyddyn o gyngherddau a gwyliau ar y gweill.


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.