Genod Droog

Genod Droog

Ffrwydrodd y Genod Droog ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru nôl yn Rhagfyr 2005 fel siwpyrband yn llawn egni, hwyl a sbri, ynghyd â thalent o gyfansoddi. Gyda chymysgedd o felodïau, rap a cherddoriaeth ddawns anthemig, doedd hi ddim yn hir cyn i'r Genod Droog mynnu ei hawl fel 'headliners' ym mhob gŵyl a gig.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Roedd y Genod Droog fel siwpyrgrwp wedi'i greu gan aelodau o fandiau llwyddiannus eraill. Roedd Dyl Mei ac Ed Holden yn gyn-aelodau o'r grwp hip-hop Pep Le Pew a'r Soffas, Gethin Evs gynt o Kentucky AFC ac roedd Nei ac Ed yn y band Diwygiad.

Prif amcan y band oedd mwynhau cerddoriaeth a chael parti ar lwyfan.

Roedd pob gig yn unigryw a'r natur anodd ei darogan yn ychwanegu cyffro. Daeth uchafbwynt yn 2006 pan gyflwynwyd perfformiad theatrig yn llawn egni, gwisgoedd dramatig, balŵns anferth a cherddoriaeth syfrdanol i ail lwyfan Maes B - yn wir, roedd hi fel gwylio hanes yn cael ei greu.

Aelodau

  • Gethin Evs (Gethin Evans): Llais, drymiau
  • Betsan Evans: Llais
  • Dull May (Dylan Meirion Roberts): Gitâr, sampler
  • Kim De Bills (Carwyn Jones): Bas, allweddellau
  • Mr Phormula (Ed Holden): Rapio, bîtbocsio, llais
  • 9 Tonne (Aneurin 'Nei' Caradog): Rapio, ffliwt, llais, boran
  • Gwyneth Glyn: Gitâr, llais
  • Heledd: Trymped
  • Berwyn Jones: Trymped
  • Alex Moller 'Rice': Offerynnau taro

Wedi'r perfformiad gwych hon, cafodd y Genod Droog eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Proms Trydanol cyntaf erioed yn Nhachwedd 2006. Perfformiwyd gydag aelodau o Ensemble Cymru yng nghlwb Barfly yn Camden gan wthio ffiniau ac arbrofi - sef prif amcanion y prosiect.

Yn Chwefror 2007 enillwyd dwy wobr yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru am y Band Byw Gorau ac am Hoff Fand Gwrandawyr Radio Cymru; yn ogystal â hynny, cawsant eu henwebu yn y categori Band Byw Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng ngwobrau'r Ffatri Bop 2007. Aeth y band ymlaen i berfformio fel prif fand Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007 gan adlonni'r miloedd.

Rhyddhawyd yr albwm Ni Oedd y Genod Droog yn Awst 2008, ond roedd y band wedi dod at ddiwedd ei daith, gan deimlo nad oedd mwy i'w gyflawni fel grŵp cyfrwng Cymraeg.

Perfformiwyd y gig olaf yn y Point fel rhan o ŵyl Sŵn, gan ddod â'r band i ben mewn gŵyl sy'n cael ei hadnabod am gerddoriaeth wreiddiol ac arloesol.

Un peth sy'n sicr, roedd hi'n yffach o barti!

Lynsey Anne


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.