Advertisement

Gai Toms

Gai Toms

Diweddarwyd: 07 Medi 2009

Un o artistiaid mwyaf talentog a hawddgar y sin Gymraeg, gyda thraciau syfrdanol gwerin, reggae a roc.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ar ôl bod yn aelod o'r band hynod lwyddiannus Anweledig ers tair mlynedd, dechreuodd Gai deimlo'r awch i gyfansoddi caneuon acwstig eu naws. Wedi'i ddylanwadu gan yr athrylith Meic Stevens, dechreuodd Gai gyfansoddi am gymeriadau yn ei filltir sgwâr dan yr enw ffug, Mim Twm Llai.

Dros y blynyddoedd nesaf, cyfansoddodd Mim Twm Llai glasuron anthemig fel Sunshine Dan, Tafarn Yn Nolrhedyn ac Wbancrw. Mae'r caneuon yn arddangos dawn unigryw Gai i adrodd straeon lliwgar am gymeriadau a digwyddiadau, dros felodïau hawdd a chofiadwy.

Aelodau

  • Gai Toms: Pob Dim
  • Euron 'Jos' Jones: Gitâr a Phedal Ddur
  • Gary Richardson: Bas
  • Philip Lee Jones: Drymiau, Ukelele, Gitâr
  • Elaine Gelling: Lleisiau Cefndir

Mae Gai wedi rhyddhau pedwar albwm o dan yr enw Mim Twm Llai sy'n cynnwys O'r Sbensh, Straeon y Cymdogion, Yr Eira Mawr a Goreuon Mim Twm Llai. Mae'r albymau'n adlewyrchu cyfnodau gwahanol o fywyd Gai, ac wedi rhyddhau Yr Eira Mawr roedd diwedd Mim Twm Llai, fel prosiect, ar y gorwel. Cyhoeddwyd albwm o'r goreuon fel ffarwel, gan fanteisio ar y cyfle i symud ymlaen a defnyddio'i ffug enw arall - Gai Toms (Gareth Thomas).

Yn 2007 rhyddhawyd Rhwng y Llygru a'r Glasu oedd yn canolbwyntio ar themâu yn ymwneud â'r amgylchedd, a'r albwm cyntaf iddo ryddhau ar ei label ei hun, Sbensh.

Mae angerdd, tynerwch, emosiwn ac ias drwy holl draciau Gai wedi'u cyflwyno dros felodïau cofiadwy ac weithiau anthemig - a dyna pan r'yn ni'n ei garu.

Ar hyn o bryd mae Gai yn gweithio ar ei albwm Saesneg gyntaf - Ffish Ffresh.

Lynsey Anne


A - Z Artistiaid

Pori gwefan Cerddoriaeth

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae pryd, ac yn lle? Edrychwch ar restr gigs C2!

BBC Wales Music

Tom Jones

More from the Land of Song

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.