Clinigol

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Fideo o sesiwn byw Clinigol ar gyfer Radio Wales. Mae'r trac 'Am Wastraff' oddi ar yr albwm gyntaf, 'Melys' a ryddhawyd ar label Rasp yn 2009.

"...y band mwya' masnachol a dawnsiadwy yng Nghymru... digon o diwns a chydweithio diddorol... dewr, dwl, dyfeisgar a diddorol." (Huw Stephens)

Dau frawd o Gaerdydd, Geraint ac Aled Pickering, sy'n teithio'r byd mewn fan hufen ia yw CLINIGOL. Dyma fand sy'n gyfrifol am rai o diwns pop-dawns hapusaf yr iaith Gymraeg. Yn eu helpu yn y fan hufen ia mae llwyth o ferched 'sexyenwoggwych', fel Siwan Morris, Elin Fflur, Caryl Parry Jones, Heather Jones, Margaret Williams, Cofi Bach, Nia Medi ac El Parisa.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y band Eiliad ar label Ciwdod yn 2006. Yna, rhyddhawyd y senglau Y Gwir a Hufen Ia cyn rhyddhau albym gynta'r band Melys ar label Rasp yn 2009.

Daeth yr EP Swigod â'r band i sylw'r wefan pop boblogaidd a dylanwadol, "popjustice" yn 2010 a ddisgrifiodd y sain fel "Big Pop Music!" . Rhyddhaodd y band ei ail albwm llwyddiannus, Discopolis yn 2012.

Newyddion

Clinigol - Melys

Albym gyntaf 'Clinigol'

Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.

Albym gyntaf 'Clinigol'

Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.

Sesiynau

El Parisa

El Parisa

29 Gorffennaf 2010

Sesiwn newydd sbon - 3 can newydd gan El Parisa.

Clinigol

Ebrill 2005

Adolygiadau

Clinigol

Ionawr 03 2007

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.