Brychan Llŷr

Brychan Llŷr

Canwr, cyn aelod o'r grŵp Jess, a chyflwynydd teledu a radio.

Ganed yn 1970 yn fab i'r diweddar Prifardd Dic Jones, a mynychodd Ysgol Gynradd Blaenporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi. Aeth ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Caerfyrddin. Ffurfiodd y band Jess gyda ffrindiau ysgol yn 1987.

Daeth Jess i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 80au, gan chwarae gigs cyffrous ledled Cymru, a Brychan yn hudo'r merched gyda'i bersona Jim Morrison-aidd, hanner noeth (o'r canol i fyny!)

Rhyddhaodd Jess eu halbwm gyntaf 'Jess' (1988) ar label Fflach, ac fe'i dilynwyd gan 'Y Gath' (1989), a ddangosai aeddfedrwydd anarferol a chyd chwarae tynn ac arbrofol. Cydnabyddir mai eu halbwm nesaf, 'Hyfryd i Fod yn Fyw' (1990) yw eu campwaith. Mae'n un o albwms gorau y 1990au (mewn unrhyw iaith), gyda chlasuron megis 'Julia Gitar' a 'Shiglidi Bot' yn dangos band yn llithro'n ymddangosiadol ddiymdrech o un arddull i'r llall - seicadelia, gwerin, ffync, roc a phop.

Roedd ffiniau'r band roc gitâr traddodiadol yn cael eu gwthio i'r eithaf. Ar ôl rhyddhau 'Paris Hotel' (1992), yn ôl tueddiad y cyfnod, trodd Jess i ganu'n Saesneg, a rhyddhawyd 'Sextravaganja' (1993) a oedd yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon 'Paris Hotel'. Recordiwyd rhywfaint o ddeunydd ar gyfer albwm bellach, o'r enw 'Pink', ond nid yw wedi gweld golau dydd hyd yma, er bod y chwedlau o'i chwmpas yn awgrymu y gallai fod eu halbwm gorau oll.

Wedi hynny, ar ôl perfformio'n fyw ar deledu cenedlaethol yr Eidal, tawelwch fu o ran Jess, ond nid oedd hynny i ddweud bod taw ar egni cerddorol aflonydd Brychan Llŷr. Yr oedd yr albwm 'U4Ria' (1997) yn dipyn o ymadawiad cerddorol, gyda Brychan yn rhydd i arbrofi efo'i lais dros wahanol fathau o arddulliau dawns (jyngl, hip-hop garage), a theg dweud y bu'n ormod o bwdin i lawer o ffans traddodiadol Jess i'w llyncu. Serch hynny, roedd yn albwm o flaen ei hamser, ac yn gam dewr ymlaen gan artist oedd â'i fryd ar ddilyn llwybr cerddorol bendant ei hun.

Mabwysiadodd ymagwedd uniongyrchol, foel ar gyfer ei albwm unigol gyntaf, 'Veleno Rumoroso' (1998), gyda 10 cân acwstig a recordiodd yn ei stiwdio gartref, ond roedd gwreiddioldeb y caneuon dwyieithog a llais anhygoel, aml-haenog Brychan yn nodweddion amlwg. Mae ei ail albym unigol 'Vexed Fanatica' (2000) yn llawer mwy sylweddol - dros 48 munud o hyd, ond roedd yn dangos eto fod byd cerddorol Brychan yn fythol symudol, ac nad oedd diben ei gategoreiddio o dan bennawd unrhyw arddull arbennig. Roedd 'Bad Pink Vibe' (2001) yn albwm fwy hwyliog, a hanner y caneuon wedi eu recordio fel perfformiadau byw, ac roedd yn cynnwys cyfraniad a ffrwyth cydweithio gyda Randy Bernsen, sydd wedi cydweithio gyda rai o enwau mwyaf y sîn jazz gyfoes.

Ei albwm ddiweddaraf yw 'Reel in Between', sy'n cynnwys cyfraniadau gan ei hen bartner o ddyddiau Jess, Chris Lewis, ac amryw o gerddorion Eidalaidd. Er mai cymharol ychydig o sylw a gafodd ei recordiau unigol yng Nghymru, gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun yn yr Eidal, lle y mae'n ymwelydd cyson.

Mae'n rhedeg gwersyll tîpis ar fferm ei deulu ym Mlaenannerch. Sir Benfro, ac mae'n gyflwynydd teledu a radio prysur.

Sesiynau

Jess

Jess

16 Mehefin 2009

Sesiwn gan Jess - 3 cân newydd sbon gan y rocwyr arbrofol chwedlonol.

Erthyglau

Wythnos Newydd C2

Mae wythnos C2 yn llawn dop gyda rhaglenni arbennig Magi, Huw, Huw, Lisa, Brychan, Ffion a Daniel.

Brychan Llyr

Ebrill 29, 2004

Brychan Llyr

Ebrill 29, 2004


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.