Amy Wadge

Amy Wadge

Mae Amy Wadge wedi gwneud argraff fawr ar y byd cerddorol ers ei hymddangosiad cyntaf fel aelod o grŵp merched o'r enw 'Two of a Mind' pan oedd yn 14 oed.

Mae ei cherddoriaeth blues a roc cyfoes wedi cael ymateb gadarnhaol gyda'r Wasg gerddorol, ac mae hi wedi cael ei chymharu efo enwau mawr fel Joni Mitchell, Emmylou Harris, Janice Joplin, Cerys Matthews a Sheryl Crow.

Yn 16 oed, aeth Amy i berfformio fel cantores ar ei phen ei hun, gan ysgrifennu ei chaneuon ei hun. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ers hynny mae wedi ymsefydlu yng Nghymru, er ei bod yn wreiddiol o dref Backwell ger Bryste.

Lansiwyd ei sengl gyntaf 'Saddest Eyes' yn 2001 ac yn yr un flwyddyn, gofynnwyd iddi hi berfformio ar gyfer 'Radio 2 Live' yng Nghaerdydd. Yr oedd y gig mor llwyddiannus, fe'i darlledwyd yn ei chyfanrwydd ar sioe Janice Long.

Ym mis Mawrth 2002, rhyddhawyd ei halbwm fach 'The Famous Hour' ar label Gymraeg 'FF Vinyl'. Denodd yr albwm ymateb mawr ac arweiniodd at berfformiad byw Amy mewn parti i ddathlu dechrau BBC6 Music gyda Lenny Kravitz ac Embrace. Hefyd yn 2002, perfformiodd Amy Wadge o flaen 30,000 o bobl yn Ngŵyl y Werin, yng Nghaer-grawnt a'r Mardi Gras yng Nghaerdydd.

Ym mis Ebrill 2003, derbyniodd Amy Wadge adolygiadau gwych ar ôl ei thaith gyntaf o wledydd Prydain gyda'i band ac ym mis Mehefin yr oeddynt yn perfformio yng Ngŵyl Glastonbury. Dim ond mis wedyn, yr oedd yn cefnogi sêr mawr megis Van Morrison a Bob Geldof ac Amy oedd y brif act yng Ngŵyl Castell Caerffili. Daeth y sengl 'Just in Time' ym mis Hydref a chafodd y gantores wahoddiad gan y Cynulliad i berfformio ar gyfer digwyddiad 'Wales Rocks Sydney' i gyd-fynd â phencampwriaeth Rygbi, Cwpan y Byd. Ar ôl iddi ddod yn ôl o Sydney, aeth ar daith arall o gwmpas Prydain a orffenodd gyda gwahoddiad iddi berfformio ar ddechrau gig Jeff Beck ar gyfer ei daith gyntaf ef ar ôl 14 o flynyddoedd.

Ymddangosodd Amy Wadge yn y gyfres deledu Cariad@Iaith ar S4C ym mis Mawrth 2004, lle ymgeisiodd i ddysgu Cymraeg gyda'r tiwtor Nia Parry, ac enwogion eraill oedd yn hannu o Gymru, gan gynnwys Janet Street Porter, Ruth Madoc, a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson.

Yn 2004, lansiwyd ei halbwm llawn cyntaf, 'WOJ'. Mae fel dyddiadur i Amy, gyda tair ar ddeg o ganeuon a ysgrifennwyd ganddi am ei theimladau a'i phrofiadau. O ganlyniad i lwyddiant yr albwm hwn, cynyddwyd y diddordeb i'r seren hon yn y byd cerddorol. Fe enillodd hi'r wobr 'Best Female Solo Artist' yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru yn 2002 a 2003 ac roedd hi'n un o'r bobl a ddewiswyd ar gyfer y wobr 'Best Newcomer' yng Ngwobrau'r Pop Factory.

Ers hyn, mae hi wedi bod yn brysur yn recordio a rhyddhau pedwar albwm arall, yn ogystal â chydweithio gydag amryw o artistiaid eraill yn cynnwys y bardd Patrick Jones. Mae hi a'i gwr Alun ap Brinley hefyd yn rieni i ddwy ferch, Mali a Nel, erbyn hyn.

Newyddion

Gweithdai Roc a Phop

Mawrth 4, 2004

Amy "WOJ"

Chwefror 18, 2004

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.