BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Crefydd & Chred

CrefyddMae archeolegwyr yn credu i Geltiaid Oes yr Haearn addoli nifer o dduwiau a duwiesau. Roeddynt yn addoli eu duwiau drwy aberthu pethau gwerthfawr iddynt i'w cadw'n hapus.

Ond nid trysorau gwerthfawr yn unig oedd eu rhoddion i'r duwiau - roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn aberthu (lladd) anifeiliad, a hyd yn oed pobl, i'w duwiau. Aberthodd y Celtiaid arfau i'r duwiau drwy eu taflu i'r llynnoedd, afonydd a chorsydd - credai'r Celtiaid fod y mannau yma yn arbennig i'r duwiau.


Yn Llyn Cerrig Bach, mae archeolegwyr wedi darganfod dros 150 o bethau pres a haearn, gan gynnwys gwaywffyn, tariannau a chleddyfau.

Roedd y Celtiaid yn parchu'r pen dynol yn fawr. Roedd haneswyr y Rhufeiniaid yn dweud eu bod yn torri pennau eu cyndadau, a hyd yn oed eu gelynion, gan addoli'r penglog.

Roedd crefydd y Celtiaid yn perthyn yn agos i'r byd naturiol ac roeddynt yn addoli eu duwiau mewn mannau arbennig fel llynnoedd, afonydd, bryniau a llwyni. Roedd y lleuad, yr haul a'r sêr yn bwysig iddynt - credai'r Celtiaid bod grymoedd goruwchnaturiol yn y byd naturiol.

Derwyddon

Roedd y derwyddon yn bwysig yng nghymdeithas Oes yr Haearn ond nid ydym yn gwybod llawer amdanynt. Nhw oedd offeiriaid y Celtiaid, yn gyfrifol am bob math o seremoniau crefyddol. Roeddynt yn aelodau galluog a phwerus o'r llwyth ac yn cael eu parchu gan y Celtiaid eraill.

Prif ganolfan y derwyddon ym Mhrydain oedd Ynys Môn.Rydym yn gwybod ychydig am y derwyddon o ddarllen disgrifiadau gan haneswyr Rhufeinig. Ceisiodd y Rhufeiniaid leihau pwerau'r derwyddon oherwydd eu bod mor bwysig yng nghymdeithas Oes yr Haearn.


Tystiolaeth
Llinell amser
Cartref
Crefftau
Gwisg a gwedd
Rhyfelwyr
Crefydd a chred
Rheol o Rufain
Cysylltiadau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy