BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y Bobl Comisiwn Madog
Cynllun preswyl Maldwyn
Gwobr Ifor Davies
Iorwerth Peate
Ackroyd Harvey
Derek Williams


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 












Arddangoswr: Carwyn Evans

Mae Polisi Cynllunio Cyngor Ceredigion wedi'i feirniadu'n hallt gan aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymuned. Dadl y gwrthwynebwyr yw nad yw amcangyfrif y cyngor o'r boblogaeth yn y dyfodol yn cyfiawnhau adeiladu'r 6,500 o dai arfaethedig yn y sir, a allai arwain at ddileu'r iaith Gymraeg yn yr ardal drwy fewnlifiad o bobl ddi-Gymraeg. Fodd bynnag, noda'r Cyngor eu bod yn ymagweddu'n realistig tuag at dai gan weithio er lles y trigolion.


Darn gosod yw Unlliw sydd yn cynnwys 6,500 o flychau adar wedi'u gwneud o gardfwrdd. Y bwriad tu ôl i'r gwaith yw cyfleu nifer y tai sydd i'w codi dros ypymtheg mlynedd nesaf gan gyfrannu at y ddadl bresennol am effeithiau posibl y polisi cynllunio a chynlluniau tebyg. Daw'r teitl o'r ddihareb "Adar o'r Unlliw, Ehedant i'r Unlle."

Gosodir blychau adar er mwyn denu adar i nythu ynddynt. Gan fod tai yng Ngheredigion yn aml yn rhy ddrud i'r gymuned leol, yr wyf am gwestiynu pwy fydd yn byw yn y tai newydd hyn unwaith iddynt fod yn eu lle. Ai pobl leol fyddan nhw neu ddim? Mae ardaloedd amaethyddol yng Nghymru yn parhau i wynebu newidiadau yn y diwydiant.

Gyda mwyafrif y gymuned amaethyddol yn heneiddio, mae'r argyfwng amaethyddol a'r mewnlifiad yn fygythiadau amlwg i strwythur economaidd a diwylliant y Gymru wledig. Gallai mewnlifiad pellach achosi newidiadau mwy fyth na fydd modd eu gwrthdroi. Fel rhywun ifanc sydd wedi gadael Ceredigion oherwydd anawsterau cael hyd i waith yn yr ardal, hoffwn ddychwelyd adref, ond a fydd hynny ar draul newidiadau pendant?

Drwy raddfa a dwysedd y gwaith, fy ngobaith yw y bydd y gwyliwr yn gallu rhagweld nifer y tai sydd i'w codi yn y sir, gan ffurfio eu barn eu hunain ynglyn a'r pwnc llosg hwn.


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura Clark Laura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie Phillips Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas Hare Penseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies Sutton Pensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari Thomas Mari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim Davies Tim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard Bevan Richard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy