Advertisement

Rwsia - enillydd Canwr y Byd Caerdydd

Ekaterina Shcherbachenko (Llun: Brian Tarr)

Ekaterina Shcherbachenko
Soprano
Ganwyd 1977

Cystadleuydd BBC Canwr y Byd Caerdydd

Cwblhaodd Ekaterina Shcherbachenko ei hastudiaethau yn y Conservatoire Gwladol ym Moscow gyda'r Athro Marina Alekseeva yn 2005 ac ymuno wedyn â Chwmni Opera Stanislavsky.

Yn y Conservatoire perfformiodd Tatyana Eugene Onegin, Mimi La bohème ac yn Theatr Stanislavsky a Nemirovich-Danchenko Lidochka yn Moskva, Cheremushki Shostakovich, a Fiordiligi Così fan tutte.

Yn 2005, gwnaeth ei début yn Theatr Bolshoi, yn rhan Natasha War and Peace. Wedyn ymunodd â chwmni'r Bolshoi ac ymhlith y rolau mae'n eu perfformio yno mae Liù Turandot, Micaëla Carmen, Iolanta Iolanta yn ogystal â Natasha, Tatyana a Mimi.

Mae ei pherfformiadau cyngerdd yn cynnwys The Bells Rakhmaninov ac Offeren Glagolitig Janácek.

Mae Ekaterina hefyd wedi gweithio gydag Opéra National de Lyon, Teatro Lirico di Cagliari a chyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Cerddorfa Ffilharmonig St Petersburg a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban yn Glasgow a Chaeredin.

Mae'r arweinwyr yn cynnwys Alexander Vedernikov, Yuri Temirkhanov, Alexander Lazarev, Jiří Bělohlávek a Mikhail Jurowski.

Ymhlith gwobrau Ekaterina bu'r drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Opera Ryngwladol Shizuoka, 2005 ac amryw wobrau yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Francisco Viñas, 2006.

Yn yr arfaeth mae teithio gyda'r Bolshoi yn 2009 i Tokyo, Milan (La Scala) a Lyublyana yn rhan Tatyana.

Yn ei hamser rhydd, mae'n mwynhau darllen a theithio.

BBC Canwr y Byd Caerdydd 2009: repertoire cyngerdd 2

  • Temerari ... Come scoglio (Così fan tutte) - Mozart
  • Ruskai pogibnu (Tatyana's Letter Scene) (Eugene Onegin) - Tchaikovsky

Amserlen perfformio

Neuadd Dewi Sant (Llun: Brian Tarr)

Cyngherddau

Rhestr digwyddiadau a lleoliadau.

Lleoliadau

Seddau

Cadwch sedd

Manylion sut i archebu lle yn y gynulleidfa.

Manylion darlledu

Baner (Llun: Brian Tarr)

Teledu a radio

Rhaglenni bydd yn cael eu darlledu ar radio a theledu'r wythnos hon.

Hanes y gystadleuaeth

Clawr llyfryn 1983

Llinell amser

Hanes y gystadleuaeth ers iddi ddechrau yn 1983.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.