Advertisement

Enillwyr cystadlaethau 2009

Ekaterina Shcherbachenko o Rwsia (Llun: Brian Tarr)

Ar ôl wythnos o gystadlu brwd, mae'r canlyniadau i gyd wedi eu cyhoeddi.

Prif gystadleuaeth

Canwr y Byd Caerdydd 2009 yw'r soprano o Rwsia, Ekaterina Shcherbachenko. Canodd mewn tair iaith yn y rownd derfynol - ond dim un ohonyn nhw'n Rwsieg.

Enillodd £15,000 a thlws, a'r posibilrwydd o waith efo'r BBC a'r Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Y pedwar cystadleuydd arall yn y rownd derfynol oedd Yuriy Mynenko o'r Wcráin, Eri Nakamura o Siapan, Giordano Lucà o'r Eidal a Jan Martiník o'r Weriniaeth Siec.

Gwobr Datganiad

Jan Martiník, y baswr o'r Weriniaeth Siec enillodd y Wobr Datganiad.

Y pedwar cystadleuydd arall i gyrraedd rownd derfynol y wobr oedd Javier Arrey o Chile, Eri Nakamura o Siapan (yn lle Tomislav Lučić o Croatia), Yuriy Mynenko o'r Wcráin a Natalya Romaniw o Gymru.

Gwobr y Gynulleidfa

Wedi miloedd o alwadau ffôn gan y cyhoedd, a phleidleisio gan y gynulleidfa yn y neuadd, cafodd yr Eidalwr Giordano Lucà ei enwi fel yr enillydd. Mae o'n derbyn gwobr o £2,000.


Cyfeilyddion y cantorion

Ffidil ar sgôr gerddorol

Cerddorion

Cerddorfeydd, arweinwyr a chyfeilyddion y gystadleuaeth.

Amserlen perfformio

Neuadd Dewi Sant (Llun: Brian Tarr)

Cyngherddau

Rhestr digwyddiadau a lleoliadau.

Lleoliadau

Seddau

Cadwch sedd

Manylion sut i archebu lle yn y gynulleidfa.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.