bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
16eg Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Hen Golwyn

Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod ym Mae Colwyn, ond bu'n rhaid ei symud i Hen Golwyn. Eisteddfod lenyddol yn unig oedd hon.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur, yn galw am 100,000 o ferched i ddod i weithio mewn ffatroedd.
  • 50 o awyrennau'r Luftwaffe yn ymosod ar Lundain ac yn lladd 1,400.
  • Abertawe'n fflam am dair noswaith yn Chwefror, 230 yn cael eu lladd, a dinistriwyd canol y dref. Fis ynghynt lladdwyd 165 pan fomiwyd Caerdydd.
  • Lladdwyd nifer o bobl ar draws Cymru, yn Rhosllannerchrugog a Phencae, Clwyd, Pontrhydyfen, Port Talbot, Y Rhondda a Chasnewydd.
  • Rudolf Hess, dirprwy Hitler, yn glanio yn Yr Alban.
  • Hitler yn torri ei addewid ac yn ymosod ar Rwsia.
  • Siapan yn ymosod ar Pearl Harbour gan dynnu'r Unol Daleithiau i mewn i'r Rhyfel.
  • Ailenwi Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru, a sefydlwyd ym 1939, yn Undeb Cymru Fydd. Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn faes tanio.
  • Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Rhyfel daeth o leiaf 200,000 o ymfudwyr i Gymru. 'Roedd dylanwad yr holl blant o Saeson yn poeni pobl fel W. J. Gruffydd, a ddywedodd fod dylanwad y Rhyfel hwn ar ddyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn anhraethol fwy na dylanwad y Rhyfel Mawr.
  • Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.
  • Er diogelwch, y BBC yn symud eu hadran adloniant o Lundain i Fangor. Un o'r rhaglenni a gi ei darlledu o Fangor oedd ITMA gyda Tommy Handley.
  • Dod thollau i ben ar Bont Menai.
  • Marw James Joyce a Virginia Wolf.
  • Cyllideb Teulu o ^wr, gwraig a thri o blant am wythnos yn y cyfnod hwn:
    Rhent.........................10/6 (52c)
    Glo..............................4/4 (22c)
    Nwy a Thrydan............3/6 (17c)
    Yswiriant....................4/8 (23c)
    Clwb Dillad...................3/- (15c)
    Bwyd..........................1-10 -0 (1.50)
    Manion........................3/- (15c)
    Costau'r G^wr............ 3/-(15c)
    CYFANSWM................3-0-0

Archdderwydd               Crwys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Hydref'
Enillydd: Rolant o Fn
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, J. Lloyd Jones, Edgar Phillips

Blwyddyn
Mynegwe
Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd. Condemniwyd y mynegiant astrus a thywyll gan y beirniaid, er nad yw mor astrus hynny; ond yr oedd yn awdl anghelfydd a chymysglyd ar brydiau, ac nid rhyfedd i'r bardd ei hailwampio yn ddiweddarach. Ni fynnai T. H. Parry-Williams gadeirio Rolant na neb arall.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Breuddwyd Macsen' neu 'Periannau'
Enillydd: J.M. Edwards ('Peiriannau')
Beirniaid: T. Eirug Davies, Edgar Thomas, Saunders Lewis

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi. Gallai dyn un ai reoli'r peiriannau neu adael i'r peiriannau ei reoli ef. Y mae rhywfaint o ddylanwad Gwenallt ar y gerdd, ac mae'n gerdd yn yr un cywair rhai o gerddi beirdd fel W. H. Auden, Stephen Spender, C. Day Lewis a Louis MacNeice. Defnyddiodd y bardd y gynghanedd i gyfleu rhuthr a grym y peiriannau yn effeithiol. Dyma un o gerddi mwyaf poblogaidd cystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Nofel fer 
Enillydd: Gwilym R. Jones ( Y Purdan )

 
Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: D. W. Morgan

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy