BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Sioe Frenhinol Cymru
Elin Fflur Elin Fflur
Proffeil o Elin Fflur, bydd yn perfformio ym mhentref ieuenctid y Sioe Frenhinol.

Ganwyd Elin Fflur yn Llanfairpwll ar Ynys Môn yn 1984. Cafodd lwyddiant cynnar yn y sîn roc Gymraeg fel rhan o'r grŵp poblogaidd Carlotta, ond daeth i sylw cenedlaethol ar ôl perfformio'r gân fuddugol "Harbwr Diogel" yng nghystadleuaeth "Cân i Gymru" yn 2002.

Ymunodd wedyn â grŵp Y Moniars am gyfnod, a rhyddhaodd album llwyddiannus gyda nhw. Tra'n cymryd seibiant o'i hastudiaethau coleg ym Mhrifysgol Bangor am flwyddyn, aeth Elin ymlaen i recordio albwm unigol llwyddiannus - "Dim Gair". Dilynwyd yr albwm yma gydag un arall "Cysgodion", ac EP o ganeuon newydd "Ysbryd Efnisien" a ryddhawyd yn haf 2006.

Ym mis Gorffennaf 2008, rhyddhaodd Elin albwm o ganeuon newydd, yr hir-ddisgwyliedig "Hafana" - cyfuniad o elfennau roc a gwerin. Roedd paratoi'r albwm yn gyffrous iawn iddi. Ar ôl sesiynau ysgrifennu gyda Siôn Llwyd a'r gitarydd Ben Main yng Nghymru a Llundain, teithiodd Elin i Efrog Newydd. Treuliodd gyfnod yno'n recordio yn Stiwdios Avatar gyda Jim Steinman, a hefyd gyda chynhyrchydd Take That a Celine Dion, Steve Rinkoff. Ond fe ddaeth yn nôl â'i cherddoriaeth i Gymru, gan recordio gyda Dave Wrench ym Methesda, a mastro'r albwm yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd mae Elin yn cyflwyno'r rhaglen gerddoriaeth 'Nodyn' ar S4C, ac mae'n edrych ymlaen at deithio led led Cymru'n hyrwyddo "Hafana". Bydd perfformio ym Mhentref Ieuenctid CFFI Cymru yn y Sioe Frenhinol yn gyfle penigamp iddi wneud hynny.



Eich neges

Rhaid cael 'Flash 9' i weld y ticer ar y ddalen hon. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam yma.

Bywyd Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy