BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eich Bro
Picnic Crwydro'r Canolbarth
Lle fyddwch chi'n mynd i grwydro? A oes gennych hoff le lle byddwch yn dianc iddo? Boed cerdded mynydd neu grwydro'r arfordir - dwedwch wrthyn ni ble mae eich hoff lecyn chi.
Hannah o Lanfair ym Muallt
Rydw i wrth fy modd yn cerdded lan Pen y Fan. Mae'r olygfa yn hollol wych yn enwedig ar ddiwrnod braf.

John o Aberteifi
Sdim byd gwell na diwrnod ar draeth Mwnt, a cherdded o amgylch yr arfordir. Mae bae Ceredigion yn hyfryd a bob amser yn cynnig golygfeydd da - sdim ots beth yw'r tywydd!

Siwan o'r Drenewydd
Bob tro fydda i'n mynd i grwydro yng nghanolbarth Cymru, rydw i'n mynd am yr arfordir, a does dim byd gwell na gwylio'r haul yn machlud dros y môr yn Aberystwyth.

Elinor o Llanbadarn
Mae cerdded yng nghanol twyni tywod Ynyslas yn fendigedig - mae'r ardal yna i gyd yn hyfryd.


Cyfrannwch

Elfie brocklehurst walford(machynlleth)
fy lle orau i fynd i grwydro yw y traeth efo fy frindiau i surfio.ynys las neu aberdyfi yw y llefoedd orau i .XXXXX
Thu Oct 16 12:48:47 2008

Mererid, Talybont
Lawr i Borth a draw i Ynys Las. Stunning. Hefyd yr ardal o gwmpas Machynlleth tuag at Aberdyfi.
Ardal o gwmpas Nant y Moch, yn enwedig pan yn dod o gyfeiriad Talybont. Gellir neud hyn ar feic yn ddigon hawdd.

Tue Dec 26 01:44:09 2006

Ben Dover o Ten Clover
Y lle gorau i fynd i yw parc Machynlleth, a wedyn dringo y mynydd. Hwyl iawn ar ddiwrnod cynnes.
Mon Dec 18 15:17:02 2006

Guto Jones
Ewch i penrhosmawr a cerdded ar ben y mynydd
Wed Apr 26 15:23:41 2006

Wini Davies, Llandre, ger Aberystwyth
Mae Bro Dysynni a'r ardal o gwmpas Craig Aderyn a Chastell y Bere yn dlws iawn ac yn llawn hanes - dyma lle daeth gwrthryfel y Cymry yn erbyn Edward 1 i ben. Hefyd mae hen eglwysi Tywyn a Llanegryn yn werth eu gweld.
Mon Feb 6 12:00:19 2006

Melanie Owen o Gapel Seion
Aeth yr ysgol am dro i'r Hafod ger Pontarfynach. Roedd yn hwyl fawr! Mae'r goedwig yno yn grêt am fod y coed yn cadw chi'n sych pan mae hi'n glawio. Cawsom bicnic wrth y byrddau pren hefyd.
Mon Dec 12 16:41:11 2005

Sarah Vaughan o Machynlleth.
Fy hoff le i grwydro yw Tywyn oherwydd mae na hufen ia bendigedig ac mae na lan y mor ffantastig yna.
Thu Jul 14 15:17:49 2005

Carrie McAuley
Fe fyddai'n cerdded rownd Machynlleth efo fy ffrindiau neu cerdded rownd siopau Aberystwyth!
Thu Jul 14 15:14:55 2005

Kim Roberts o Fachynlleth
Maen bwrw fel arfer fellu rwyf ddim yn mynd mas, ond pan mae'n boeth rwyf yn mynd i Aberystwyth gyda fy ffrind gorau.
Thu Jul 14 15:13:18 2005

Emma Caryl Forbes
Rwy`n hoffi mynd ar fy meic i'r cwrs golff efo fy mam oherwydd mae`n hwyl
Thu Jul 14 15:12:33 2005

Sian, Llanbrynmair
Cerdded o amgylchn y pentref a mynd ar y llwybr cyhoeddus o'r enw Llwybr Bach.
Thu Jul 14 15:09:59 2005

Sara Humphreys , Aberangell
Rwyf yn hoffi mynd ar fy meic a fy chwaer i Mallwyd ar y ffordd gefn oherwydd dydi ddim yn bell a does ddim llawer o draffic ac mae'n dawel iawm o gwmpas.
Thu Jul 14 15:07:46 2005

Megan Ryder , Glantwymyn
Fy lle gorau i gerdded yw ffordd Glyn Dwr oherwydd mae'n mynd syth trwy ein caeau. Os ydych yn gwybod lle i edrych rydych yn gallu gweld rhan fwyaf o bro Ddyfi- gan gynnwys draig goch brynmelyn.
Thu Jul 14 15:06:46 2005

Deanna Machynlleth
Dydw i ddim yn cerdded dw i yn mynd ar y beic i'r afon neu i'r parc gyda fy ffrindau
Thu Jul 14 15:04:32 2005

Iola Machynlleth
Rydw i'n hoffi mynd ar y beic efo fy ffrindiau magi + autu i dolguog.
Thu Jul 14 15:02:56 2005

Margo Edwards, Machynlleth/Corris
Rydw i'n hoff mynd rownd Dolguog efo fy ffrindiau Iola a Autumn ac rydw i'n hoffi cerdded trwy'r coedwig gyda'r cwn tu ol i fy nhy.
Thu Jul 14 14:59:35 2005

phil o dolfach
Dwin hoffi mynd i'r goedwig weithiau, dwi'n gweld llwynog neu cwningod rhau o'r weithiau
Thu Jul 14 14:58:49 2005

Iolo Tomlinson o Machynlleth
Rydw i yn hoffi mynd fyny'r roman steps a rownd y mynydd a stopio wrth y llyn ar y top.
Thu Jul 14 14:29:38 2005

Iwan Griffiths o Penegoes
Ewch i lwybr Glyndwr i gerdded o amgylch ardal hyfryd Machynlleth
Thu Jul 14 14:26:56 2005

Debbie Davies Llanbrynmair
Rydw i'n hoffi fynd i fyny Lake Vyrnway oherwydd mae'n hwyl i cerdded i fyny y mynydd ac ryden ni'n gallu fynd ar draws y lle i gyd.
Thu Jul 14 14:25:49 2005

Sara Parry o Lanwrin
Rwy'n mwynhau cerdded drwy gaeau ein fferm yn Lanwrin, yn enwedig y rhai ar lechwedd gan bod yna nant hardd yno a 'dwi bob tro'n stopio i'w hedmygu!
Thu Jul 14 14:13:23 2005

Dafydd Huw o Fachynlleth
Llyn Glaslyn, mae'n lyn hardd iawn ac yn lle bach neis i gerdded o gwmpas.
Thu Jul 14 14:11:54 2005

Sara Vaughan o Aberangell,Machynlleth
Rwy'n mwynhau mynd fyny ffordd i ben mynydd ein fferm ni.Mae yna olygfa bleserus yno dros ben.Gallwch weld y pentre ac yn bellach na hynny Cadair Idris. Ac os ewch chi dros nant y mynydd gallwch weld yn bellach eto.Ond yn y nos mae hi orau gallwch weld holl oliadau bach pentref Aberangell.
Thu Jul 14 14:11:33 2005

Rhys Jones Cemaes
Glanmerin
Thu Jul 14 12:48:22 2005

Steffan o Gwmllinau
Y lle gorau i grwydro yn fy marn i ydi i fyny mynyddoedd ac i lawr yr afon Ddyfi
Thu Jul 14 12:45:00 2005

Megan Enlli , Machynlleth
Y lle gorau i fynd yn ystod y gwyliau yw i lan y mor i nofio a kite surfio, mae genym ni ysgol kite surfio ym Pennal, lle dda i dysgu sut!!!!!!
Thu Jul 14 12:43:26 2005

Kim ,Machynlleth
Rwyf yn hoffi cerdded lawr i'r parc pan mae'n boeth ac unrhywle gyda fy ffrindiau.
Thu Jul 14 12:42:10 2005

Carrie McAuley o Fachynlleth
Lle gorau i grwydro yw ar wyliau ar lan y môr, neu rownd y siopau!!!
Thu Jul 14 12:41:10 2005

Elan Machynlleth
Rydw i'n hoffi mynd i siopa gyda ffrindiau yn rhywle ond Machynlleth, achos does dim byd yma.
Thu Jul 14 12:40:45 2005

Nia o Machynlleth
Dwi'n hoffi mynd i siopa yn Shrewsbury.Does yna ddim byd yn Machynlleth ond mae Aberystwyth yn ok.
Thu Jul 14 12:40:44 2005

Elfie Brocklehurst
Fy lle ore i grwydro i yw Aberdyfi achos mae y traeth yn hyfryd
Thu Jul 14 11:58:27 2005

Elfie Brocklehurst
Fy lle ore i grwydro yw Paris achos dwi'n hoffi edrych o amgylch y siopau a'r adeiladau.
Thu Jul 14 11:56:51 2005

Lucy Drought Machynlleth
Fy lle gorau i fynd am dro yw fyny'r Roman steps achos pan rydych chi fyny yna mae yn olygfa gwych.
Thu Jul 14 11:46:20 2005

faith harmsworth aberllefenni
fy lle gorau am fynd am dro yw fyny yn y mynyddoedd yn aberllefenni.
Thu Jul 14 11:46:14 2005

Katie Johnson, Corris
Fy lle gorau i fynd am dro yw wrth yr afon Dyfi yn Aberllefenni.
Thu Jul 14 11:46:12 2005

Luke o Aberystwyth
Y lle gorau yw syrffio yn Hawaii a hefyd Awstralia!!
Mon Feb 14 18:31:35 2005

Huw Hopkins,Aberystwyth
Rwy'n hoffi crwydro yn Nant yr Arian oherwydd mae`r llwybrau yn igam-ogam ac yn serth.
Wed Feb 2 11:54:32 2005

Rhydian o Aberystwyh
Fy lle gorau i yw mynd i lan y môr
Wed Feb 2 11:10:34 2005

Rikki o aberystwyth
Y lle gorau i grwydro yw i glwb rygbi Aberystwyth
Wed Feb 2 11:07:58 2005

Sioned o Gaerdydd
Cerdded ar draeth a thwynni tywod Ynyslas yn y gwynt a'r glaw. Mae'n gret os ydych chi'n gwisgo dillad addas i'ch cadw yn sych ac yn gynnes!
Mon Sep 13 15:06:34 2004


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bywyd Bro
Adolygiadau
Papurau Bro


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy