Yn y tri mis diwethaf mae'r arweinydd Gregory Roberts a'i aelodau wedi ymddangos ar amryw lwyfannau; o berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd i berfformio yn yr Oireachtas, Eisteddfod Genedlaethol yr Iwerddon. Ac mae'n ymddangos bod mwy ar y gorwel.
Dechreuodd ein siwrnai ym mis Chwefror eleni pan dderbyniwyd gwahoddiad gan y dyn ei hun - Max Boyce, i ymddangos fel rhan o'i daith 'Max Boyce and Special Guests' i berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm. Estynnwyd y gwahoddiad yn dilyn cyngerdd yng nghlwb rygbi pentref genedigol Max, Glynnedd, lle perfformiodd y côr gyda'r côr meibion lleol. Gwefreiddiol ydy'r unig ansoddair addas i ddisgrifio'r profiad o ganu ar lwyfan mor adnabyddus, yng nghwmni Max Boyce ac i gynulleidfa o 1900 o bobol. Mae'n debyg ein bod wedi gwneud cryn argraff ar Max Boyce hefyd wrth iddo ein cydnabod fel "y côr ieuenctid gorau fi 'di clywed mewn amser hir iawn!"
O Gaerdydd, i Letternkenny, Iwerddon nesaf lle bu'r Côr yn cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd a'r Oireachtas na Gaeilge. Bu'r wythnos yn un llawn hwyl, gyda llawer o gymdeithasu gyda'r cenhedloedd Celtaidd eraill a hyd yn oed mwy o berfformio, ar deledu Gwyddelig, mewn amryw dafarn ac wrth gwrs 'Noson Gymraeg' yr ŵyl.
Cipiwyd ambell wobr hefyd yn ystod yr wythnos, gyda'r arweinydd Gregory Roberts yn ennill yr Unawd Alaw Werin a churo ymhlith eraill, enillwyr Mod Brenhinol Cenedlaethol yr Alban; ac ensemble lleisiol Ger-y-Lli yn derbyn yr ail wobr gan guro'r Moniars. Cipiwyd hefyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Côr Merched a'r ail wobr yng nghystadlaethau'r Côr Cymysg a Chôr Meibion. Yr Uchafbwynt fodd bynnag oedd derbyn dwy wobr gyntaf yng nghystadlaethau Côr Sanctaidd a Chôr Cymysg yr Oireachtas gan guro rhai o oreuon Iwerddon, y Côr cyntaf o Gymru i gyflawni'r gamp.
Wedi dychwelyd i Gymru gyda phum cwpan, unwaith eto ni ddaeth gorffwys. Bu canran o Gôr Ger-y-Lli yn cystadlu yn Eisteddfod James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid lle cipiwyd y Wobr Gyntaf yn y gystadleuaeth Côr Merched a chyntaf yng nghystadleuaeth Côr SATB.
Ar hyn o bryd mae'r côr wrthi yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac ar gyfer cyngerdd ym mis Gorffennaf, 2007 i godi arian at achos Cymdeithas MS Cymru, cymdeithas mae'r côr wedi bod yn cefnogi trwy'r flwyddyn. Mae yna felly cyfnod prysur arall o'u blaenau!
Gan Catryn Lawrence
Mwy am Aberystwyth
Cyntaf i Côr 'n Wal yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
 |