BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Aberystwyth
Britta Schulze-Thulin Almaenes yn Aberystwyth
Bu Britta Schulze-Thulin o'r Almaen yn byw am gyfnod yn Aberystwyth gan ymroi'n llwyr i'r gymdeithas Gymraeg. Yma mae'n dweud ei hanes a chymaint mae'n colli'r cyfeillgarwch pobl Aber.
Yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Freiburg yn yr Almaen yn 1985 gwelais i fod cwrs iaith o'r enw 'Kymrisch' (Cymraeg) ar gael yn yr amserlen ddarlithoedd.

Gan nad oeddwn i erioed wedi clywed am yr iaith hon es i i'r cwrs i weld pa fath o iaith oedd hi ac fe'i hoffais yn fawr iawn. Dysgais i Gymraeg am ddwy flynedd wedyn yn Freiburg.

Ddwy flynedd yn hwyrach, ar ôl i fi symud i Brifysgol Köln (Cwlen/Cologne) ces i gynnig am ysgoloriaeth Erasmus (rhaglen cyfnewid myfyrwyr yn Ewrop) i fynd i Aberystwyth am flwyddyn. Mwynheais fy amser yng Nghymru yn fawr iawn ac es i am flwyddyn arall. O 1993 ymlaen ysgrifennais draethawd doethuriaeth am hanes y ferf Gymraeg yn adran ieitheg Brifysgol Halle yn yr Almaen, wedi graddio yn 1998.

Yn y cyfamser treuliais lawer o amser yn y Llyfrgell Genedlaethol - bob haf am wythnosau. Yn 2002 ces i gynnig gwaith yn y Canolfan Uwchfryddau Celtaidd a bues i'n gweithio ar y prosiect 'Geiriadur Cymharol Celteg'.

Doedd hi ddim yn anodd dod o hyd i ffrindiau Cymraeg. Mae pobl sy'n dysgu Cymraeg yn cael ei croesawu yn galonnog yng Nghymru.Mae Aberystwyth yn le rhyngwladol - e. e. roedd un o'm ffrindiau yn dod o Iwerddon ac yn siarad Cymraeg hefyd. Llwyddais i siarad Cymraeg bron drwy'r amser yn Aberystwyth - prin y siaradais Saesneg o gwbl.

Roedd yr astudiaethau yn yr Hen Goleg yn ddiddorol dros ben - llenyddiaeth Gymraeg ym mhob cyfnod, hanes y Gymraeg, ieitheg, Gwyddeleg a Llydwaeg hyd yn oed - popeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd fy ffrindiau i gyd yn siarad Cymraeg a gweithiais fel gweinyddes yn y Cŵps lle roedd llawer o bobl Cymraeg hefyd. Daeth nifer ohonynt yno dim ond i weld Almaenes sy'n siarad Cymraeg! Doedd hynny ddim yn gyffredin yr adeg 'na.

Arhosais i yn Aberystwyth dros y Nadolig ddwywaith pan fydd hi'n droi'n dref Gymraeg gan mai dim ond y bobl lleol sydd ar ôl. Flynyddoedd yn ddiweddarach des i ar draws staff Cymraeg yn y 'Ganolfan' - gwych. Felly mae hi'n bosib osgoi'r Saesneg mewn tref Gymraeg fel Aberystwyth.

Roedd y bobl yng Nghymru yn garedig iawn. Teimlais i fel rhan o'r gymdeithas - dim problemau o gwbl. Ces i fy ngwahodd i dai yn Aberystwyth ac yn yr holl wlad yn aml. Teithiais i o gwmpas Cymru cyn amled ag oedd bosib. Ar ôl i fi astudio yn Aberystwyth roedd llawer o bobl yn meddwl dylwn i aros yng Nghymru, y peth gorau fyddai i fi briodi Cymro a chael llawer o blant. Roedden nhw'n drist pan es i'n ôl i'r Almaen, a finnau hefyd.

Nawr rydw i'n awdures amser llawn, wedi ysgrifennu llyfr ymadroddion Cymraeg, llyfr dysgu Cymraeg a theithlyfr am Gymru - i gyd drwy gyfrwng yr Almaeneg. Diolch yn fawr i bawb am eu cymorth!

Gan: Britta Schulze-Thulin

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Dysgwraig Cymraeg o'r Almaen

  • Gwefan Aberystwyth


  • Cyfrannwch

    Netty, Machynlleth
    Mae llyfrau Britta yn dda iawn. Llongyfarchiadau! Pam doeddet ti ddim aros yng Nghymru, priodi Cymro a chael llawer o blant? Beth am dy brofiadau anodd? Bydd hynny yn ddiddorol hefyd.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy