BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Myra Chapman, Elain Davies a Janet Evans, Llywydd yr ysgub. Ffair Dda yn Llanfihangel
Tachwedd 2009
Hanes Ffair flynyddol Llanfihangel a gynahliwyd yn ystod mis Hydref.

Roedd hi'n ddiwrnod da a thrist yn y Ffair yn Llanfihangel eleni.

Roedd hi'n ddiwrnod da oherwydd Ilwyddiant y Ffair flynyddol, ac yn ôl y trysorydd J R Jones llwyddwyd i godi £1856.80 swm sylweddol ac anrhydeddus iawn.

Daw ffyddloniaid ynghyd bob blwyddyn lle bynnag y cynhelir y Ffair a mawr ddiolch sydd yn ddyledus iddynt i gyd.

Roedd y neuadd yn Llanfihangel dan ei sang - y stondinau o bob is ardal a merched y Llan yn brysur yn y gegin fel petaent yn porthi'r pum mil!

Agorwyd y Ffair gan Myra Chapman, chwaer Ella Morris Jones Abermiwl oedd i fod i'w hagor, a dyna'r tristwch oherwydd bu farw priod Ella, Selwyn, wythnos yn gynharach ar ôl gwaeledd hir.

Ond fel y dwedodd Myra, roeddem i gyd i feddwl mai Ella oedd yno ar y Ilwyfan, a darllenodd Myra ei haraith oedd yn cyfeirio at Iwyddiant Yr Ysgub ar hyd y blynyddoedd ac a fydd yn dathlu 30 mlynedd yn 2010.

Cyflwynwyd basged o flodau hardd gan Elain Davies ar ran Yr Ysgub i Myra i'w trosglwyddo i Ella, gyda chydymdeimlad Yr Ysgub ynghyd a diolch mawr iddi am ei rhodd hael iawn.

Mynegwyd y diolch a'r cydymdeimlad hefo Ella gan Janet Evans, Llywydd Yr Ysgub.

Dyma'r Ffair gyntaf ers hanes Yr Ysgub i Ella fethu a bod yn bresennol.

Pan ddaeth yn amser tynnu'r Raffl Fawr roedd Janet yn Ilawn hwyl a'r Ilais clir ac effeithiol yn tawelu'r dorf fawr oedd wedi dod ynghyd, a chafodd gymorth ein teipyddes Lowri Bryndreiniog i dynnu'r tocynnau a dyma'r enillwyr lwcus:£50 (oedd wedi'i roi rhodd gan un o ddarllenwyr Yr Ysgub)

Mair Hughes Gadlas Llanrhaeadr YM; Gwobrau eraill - Fferyllfa Danby Llanfyllin; Huw Evans Penyffordd Llanfihangel; Gwyneth Lewis Llanfyllin; David Ellis Gobowen; J T Davies Llangedwyn; J Williams Rhiwsaeth Penybontfawr; Susan Evans Hughes Llanrhaeadr Y M; Aled Ellis Gobowen. Enillwyr y rafflau bach oedd : Mrs Edwards Maengwynedd, Sheila Dickinson, Mair Ellis, Gaynor Owen, Llywela Roberts Llanfyllin; John Lloyd Llanwddyn, Lloyd Davies Llansanffraid; Mary Jones Croesoswallt, Gwen Edwards Cymdu, Linda Roberts Penybontfawr ac Eirwen Edwards.

Diolch yn fawr iawn i Lanfihangel am y croeso a'r trefniadau yn y neuadd, ac yn arbennig i ferched y Llan am y te blasus. Diolch i bawb a gefnogodd y Ffair mewn unrhyw ffordd, diolch i'r holl weithwyr hefo'u stondinau ac a fu'n gwerthu'r tocynnau.

Diolch am y gwobrau a diolch am eich presenoldeb. Hwyrach bod problemau hefo'r band eang a'r rhyngrwyd yn yr ardal hon, and nid oes problem hefo Cymreictod na chroeso yn Llanfihangel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy