BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Yn y llun gwelir y Dr Aled Lloyd Davies wrth ochr cerflun o Daniel Taith y Pererinion
Gorffennaf 2009
Hanes taith i Sir y Fflint gan weinidogaeth Bro Dyffrynnoedd Tanat, Cain, Efyrnwy a Llanarmon.

Os yw dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn gyfystyr ag un bererindod i Rufain, yna'n sicr mae pererinion Gweinidogaeth Bro Dyffrynnoedd Tanat, Cain, Efyrnwy a Llanarmon wedi teithio digon i fod yn gyfystyr a phererindod i Jerwsalem sawl gwaith drosodd os cyfrir yr holl bererindodau dros y blynyddoedd diwethaf.

Sir y Fflint a'r Wyddgrug oedd y gyrchfan eleni a chafwyd taith lwyddiannus iawn yng nghwmni Dr Aled Lloyd Davies.

Teithiwyd o amgylch tref Yr Wyddgrug ac o amgylch Sir y Fflint gan ymweld a nifer o lefydd o ddiddordeb hanesyddol a chrefyddol, ac roedd ein Gweinidog y Parch Gwyndaf Richards wedi'n paratoi'n dda wrth gynhyrchu taflen o wybodaeth gynhwysfawr, ac ar ben hyn i gyd roedd y stor o wybodaeth a ddaeth allan o enau Aled a hynny'n rhyfeddol a gwych iawn.

Cyn cychwyn ar ein taith o amgylch tref Yr Wyddgrug ymunwyd mewn oedfa Sul y Tadau yng Nghapel Bethesda yng ngofal y Parch Huw Lloyd Powell-Davies, ac yn dilyn mwynhawyd cwmni'r aelodau yn y Festri lle cafwyd croeso mawr a phaned o de gyda'n brechdanau.

Ar ddiwedd y prynhawn mwynhawyd pryd o fwyd ardderchog yn y Springfield Pentre Helygain. Talwyd y diolchiadau ar y bws gan Thomas Morris, yn arbennig i Dr Aled Lloyd Davies, Parch Gwyndaf Richards, Peter Williams a Robin Hughes oedd wedi gwneud y Paratoadau, ac yn olaf ond lleiaf i Geraint y gyrrwr bws hynod ofalus a medrus


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy