BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Mynwent Eglwys St Dogfan
Gorffennaf 2005
J. T. Davies yn trafod y broblem i lawer o eglwysi, capeli a chynghorau lleol yn yr ardal yma.

Mae cadw mynwentydd yn drefnus yn broblem parhaol i lawer o eglwysi, capeli, a chynghorau lleol, yn yr ardal yma. Yn Llanrhaeadr cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned yw'r fynwent sy'n amgylchu Eglwys Sant Dogfan.

Ym 1973 symudwyd nifer fawr o gerrig beddau o'u safle gwreiddiol a gosodwyd hwy yn bentwr wrth fur gorllewinol y fynwent. Yna ym 1988 ymgymerodd Antur Tanat Cain â'r gwaith o'u gosod yn rhesi ar eu gorwedd yn y rhan dwyreiniol, a'r rhan orllewinol o'r fynwent.

O ganlyniad i'r lleihad sylweddol yn y nifer o feddfeini ar y fian yma o'r fynwent, daeth yn llawer hawddach i dorri glaswellt a chadw'r fynwent mewn trefn. Fodd bynnag achoswyd gofid i rai teuluoedd gan fod rhai beddfeini wedi eu symud tra yr oedd cysylltiadau teuluol â rhain yn parhau i fod yn yr ardal.

Y mae yn parhau ddarn sylweddol o'r fynwent yma, rhwng yr Eglwys a'r Afon Rhaeadr, lle na cheisiwyd ei wella hyd yma, ac y mae'n hynod anrhefnus ac yn anodd ei drin. Y mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr (Clwyd gynt) yn awr yn bwriadu symud rhai beddfeini a'u hail-osod yn y rhan yma o'r fynwent er mwyn hwyluso torri'r glaswellt, gyda thorrwrglaswellt mecanyddol.

Fe fydd yn angenrheidiol i symud y cwrbyn sydd ar rhai o'r beddau er mwyn hwyluso'r gwaith. Mae aelodau'r Cyngor yn ymwybodol o'r angen am ofal, a sensitifrwydd gyda'r gwaith yma ac fe wneir pob ymdrech i ail-osod y beddfeini a symudir yn drefnus, gan symud ond y rhai hynaf.

Oherwydd prinder cyllid y mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr yn bwriadu gwneud y gwaith dros gyfnod o flynyddoedd, a bydd darn cyntaf a glustnodi'r i'r prosiect yma, yn cael ei ddewis a'i nodi yn fuan. Yna fe ofynnir i gontractwyr lleol sydd â diddordeb yn y gwaith am bris. Pan fyddo'r cynllun wedi ei gwblhau, dylai'r rhan yma fodyn daclus, ac yn hawdd i'w gadw mewn trefn yn y dyfodol.

Erthygl gan J. T. Davies

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy