BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Yn y Ilun gwelir Rhian Tomlinson, Eurwyn Thomas, Huw Thomas, Arwyn Groe a Thomas Morris. Rhiwlas yn rheoli
Ebrill 2010
Hanes ymryson flynyddol beirdd Yr Ysgub.

Cafwyd noson arbennig o dda yn yr Institiwt yn Llanfyllin ar Chwefror 26ain pan gynhaliwyd yr Ymryson Flynyddol rhwng beirdd Yr Ysgub.

Dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn yr Institiwt a phawb yn canmol y cyfleusterau a'r cynhesrwydd a'r lle yn Ilawn.

Croesawyd pawb i'r noson gan Is Lywydd Y Gymdeithas Gymraeg sef y Parch Gwyndaf Richards (yn absenoldeb y Cadeirydd y Parch Raymond Hughes oedd yn gwledda yn Nyffryn Tanat hefo Merched y Wawr !).

Y Meuryn oedd Arwyn Davies neu Arwyn Groe i bawb bellach nid yn unig ym Mhowys and drwy Gymru gyfan a'r byd i gyd pan fydd Jonsi'n dweud am raglenni Radio Cymru.

Ac os nad oedd Cymru cael hwyl arni y noson honno yn erbyn Ffrainc roedd Arwyn 'on the ball' chwedl y Sais.

Roedd hyd yn oed deunydd gweinidog a phregethwr hen ffasiwn pan adroddodd un o'r darnau a gyflwynwyd gan y beirdd.

Yn bendant roedd pawb wedi mwynhau ei sylwadau craff a hwyliog a doniol a'i bwyso a mesur ac yn sicr ei farciau oedd yn creu penbleth ar adegau i Thomas Morris Trewern oedd yn ceisio ymdopi a'r mathemateg.

Fel y gwelwch yn y golofn farddol roedd gwaith da iawn wedi cael ei gyfansoddi a'i gyflwyno a'r Meuryn yn canmol y safon i'r entrychion.

Roedd y ras yn ddiddorol ac yn hynod o agos ac o drwch blewyn ar y diwedd Rhiwlas oedd yn fuddugol (1001/2 a Ilongyfarchiadau mawr i Huw Nant a'i dim.

Heb fod yn y Ilun and wedi cyfrannu at y gwaith roedd Alun Emanuel. Tanat Cain oedd yn ail (100) a Dyffryn Ceiriog yn drydydd (99) a'r tro hwn nid oedd tim o Groesoswallt yn bosibl.

Ann Ellis oedd with y drws yn gwerthu tocynnau raffl i bawb a'r enillwyr oedd Dewi Griffiths, Rhiwlas, Llinos Jones Gadair Llanfyllin, Gwenan Thomas Rhiwlas, Llywela Roberts Llanfyllin a Heddys Jones Dyffryn Tanat.

Diolchwyd i'r rhoddwyr gwobrau raffl gan Robin Hughes, diolchwyd i'r merched am y swper ardderchog ac i bawb a fu mor hael wrth gyfrannu tuag ato, hefyd i'r merched a weithiodd yn galed yn y gegin gan y Parch Gwyndaf Richards, ac hefyd ddiolchodd i'r Meuryn am ei waith ardderchog, ac i Thomas hefo'r marciau ac i bawb am gefnogi'r noson.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy