BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
10fed Chwefror 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Angor
Swyddfa'r Llywodraeth Agor Swyddfa'r Llywodraeth
Tachwedd 2009
Hanes agoriad swyddogol swyddfeydd newydd y Cynulliad ym Mharc y Llyn, Abertystwyth

'Rydw i wrth fy modd yn gweld swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth yn agor ei drysau i bobl y canolbarth a'r Gorllewin.'

Dyna oedd cyfarchiad Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, with annerch y gynulleidfa oedd yn bresennol yn agoriad swyddogol y swyddfeydd newydd ym Mharc y Llyn.

Mae'n siwr bod darllenwyr YrAngor wedi dilyn adeiladu'r ddwy swyddfa drawiadol ar gyrion y dref, sef, swyddfa Llywodraeth y Cynulliad a phencadlys Cyngor Sir Ceredigion.

Mae'n dda gweld bellach bod y ddwy swyddfa wedi agor a'r staff wedi dechrau gweithio yno.

Wrth agor adeilad Llywodraeth y Cynulliad fe nododd Rhodri Morgan hefyd bod yna groeso i bobl alw mewn.

I'r pwrpas hwn fe neilltuwyd un ardal gyhoeddus, sef, y Bont, lle bydd hi'n bosib cael gwybodaeth am wasanaethau'r Llywodraeth a syrffio'r we ac mae hefyd yn cynnwys eisteddle a chaffi i ymlacio ynddo.

Yn ystod yr agoriad fe bwysleisiwyd hefyd yr elfennau gwyrdd i'r adeilad, lle defnyddir tyrbinau gwynt a phanelau solar i gynhyrchu pwer a gwres gan rannu gwresogyddion biomas hefo swyddfa Ceredigion.

Mae'n siwr y bydd hi'n cymryd peth amser i'r staff setlo yn yr adeilad ac mae'r cynllun agored yn sicr o brofi'n sialens o ran sŵn ond gobeithio'n fawr y bydd trigolion yr ardal yn manteisio ar y cyfle i ymweld a'r Bont ac i flasu'r croeso gan ei fod yn ddatblygiad pwysig yn nhref Aberystwyth.

'Mae hwn yn llawer mwy na phrosiect i godi adeilad newydd,' ychwanegodd Rhodri Morgan, `y pwrpas yw dod â Llywodraeth y Cynulliad yn nes at y bobl.'

Yn ystod y seremoni agoriadol cafodd Sioned Thomas, cyn-ddisgybl yn Ysgol Penweddig, gyfle i nodi ei hargraffiadau o'r adeilad ac fe gafwyd datganiad hyfryd gan delynorion lleol dan ofal Delyth Evans.

Darllenodd Geraint Davies, eto o Ysgol Penweddig, englyn o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones i nodi'r achlysur.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy