BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Angor
Arwel Jones Marathon yn y meddwl
Mai 2008
Rhedodd Arwel Jones marathon Llundain ym mis Ebrill 2008.

"Dyma beth o hanes fy mhrofiad diweddar yn rhedeg y marathon and rhag ofn i chi beidio cyrraedd ei diwedd hi - dwy neges. Yn gyntaf diolch yn fawr iawn i ddarllenwyr Yr Angor. Llwyddais hyd yma gyda'ch cymorth chi i godi dros £4000 o bunnoedd i Mind.

Ac yn ail dwi'n cyrraedd carreg filltir go bwysig ar y 6ed o Fehefin a dwi a fy ffrind gorau Sion sy'n dathlu'r un diwrnod, yn cael parti pen blwydd yn y Marine. Fe fydd rhai gwahoddiadau o gwmpas y lie - and mae o'n wahoddiad agored. Dowch i fwynhau - dim anrhegion - and cyfle i gyfrannu at Mind wrth gwrs!

"Ma' ishio sbio dy ben di!", "Ti'n nyts!","Ti'm yn gall!"

Ac wrth i'r ail Womble ruthro heibio efo Cornish Pasti anferth ar ei sodlau o'n i'n tueddu i gytuno.

O'n i yn Llundain ers dyddiau a'r tywydd wedi bod yn braf nes i mi fentro Fr Mall i weld lie byddwn i'n gorffen. Wrth gerdded heibio i dŷ Beti Windsor ac at y lie byddai'r llinell derfyn, dyma daran anferth a chawod lethol o law. Rhybudd?

Y daith draw i'r cychwyn yn y trên oedd rhan waetha'r ras. Yr hanner awr mwya clostraffobig wedi fy ngwasgu dan gesail rhyw epa mawr blewog oedd yn cydio yn y reilen uwch fy mhen a'i fanana felen o gariad.

Rhedeg. Yn hwyr neu'n hwyrach roedd rhaid rhedeg. Roedd fy mhen¬glin yn brifo a fy ffêr a fy mhenelin a fy nant. Allwn i byth wneud hyn.

Ond cychwyn oedd rhaid a'r banner cyntaf yn don anferth o emosiwn. Cymaint yn digwydd. Cymaint o gefnogaeth, o gymeradwyaeth, o sŵn, o gerddoriaeth, o dynnu coes. Cymaint o storïau - `er cof am mam', `mae hon i ti Beti', Run o blentyn tlws, hogan ifanc landeg.

Cael fy nghario gan y don yma at hanner ffordd trwy'r glaw. Ac er nad oedd gen i ffôn -'yes, I'm running the marathon', 'just coming up to mile twelve dear' `an orange juice and some jellie babies would be marvelous love' - ges i gip sydyn ar y criw ffyddlon oedd wedi dod i gefnogi a chael rheswm i gredu ein bod ninnau'n rhan o'r carnifal rhyfedd yma ar strydoedd Llundain.

O'n i'n gwisgo fy enw ar fy nghrys ac erbyn hyn roedd pobl wedi cymryd at weiddi eu cefnogaeth.

`Come on Rossette!' `Run Rouquet!', `That's it, keep going ... ym ... Roche!'

Tua milltir 22 oedd pethau'n mynd yn anodd. Dwi ddim yn honni i mi hitio'r wal. Ond dwi'n credo I mi ddod wyneb yn wyneb â pham fod rhywun yn gwneud peth fel hyn. O'n I wedi gwneud 22 milltir ar Lôn Eifion yn Arfon.

16 milltir ohono fo yng nglaw oeraf Eryri, fy wal I y diwrnod hwnnw oedd rhedeg heibio'r troad am adref I ddannedd y gwynt a'r glaw ac wedyn ddwy filltir o gartref cael fy nghyfarch gan anifail prin iawn yn yr ardal honno - ffermwr o Sais - gyda'r geiriau `loovley weather for a jog in'it mate.'

Fyddai Llundain byth cyn galeted â hynny.

Ond o 22 milltir i'r diwedd o'n i'n torri tir newydd. A rhwng 22 a 24 oedd hi'n arbennig o anodd.

Heb redeg cyn belled o'r blaen, wedi blino ac awr arall o redeg i fynd. Unwaith o'n i wedi cyrraedd 24 efo hanner awr i fynd, a beth oedd yn cyfateb i redeg o'r Cŵps i Eglwys Llanbadarn ac yn ô1, o'n i'n iawn.

Ond rhwng 22 a 24 doedd hi ddim yn hawdd. Dyma dorri'r gŵys newydd. Yma oedd hi wlypaf ac oeraf and ar gyfer hyn oedd rhywun wedi ymarfer mewn gwirionedd.

Y newyddion da oedd bod yna betrol yn y tanc i godi dau fys ar Beti Windsor a chroesi'r llinell ar wib mewn 4:46:36 - yn fwy blinedig nac erioed o'r blaen and wedi gorffen.

Un elfen ryfeddol o'r holl beth, sy'n gwbl unigryw I farathon Llundain, mae'n debyg, yw'r elfen elusennol.

Roedd yna grysau o bob lliw a llun, negeseuon coffa i rai hoff a a phobl yn gyrru eu hunain at ryw nod yn fwy na rhedeg chew milltir ar hugain (a 365 o lathenni).

Elusennau plant a chancr oedd y rhai amlycaf. Roedd gan rhain gorau o gefnogwyr yn gyson ar ochr y ffordd.

Ond beth am fy elusen' i? Lle oedd fy nghefnogwyr i? Ddois ddim ar draws llawer o grysau cyfarwydd â logo Mind arnyn nhw wrth redeg o gwmpas a doedd dim Rawer o faneri a balŵns a sgrechfeydd o'r palmentydd.

Ac i ryw raddau dyna pam dwi'n dal i weithio dros Mind. Dyma'r trydydd digwyddiad codi arian i mi fod yn rhan ohono fo ac er mai am resymau cwbl hunanol y gwnes i ddechrau ymwneud â Mind - o'n i eisiau mynd i gerdded Nghenya - dwi wedi dod i werthfawrogi eu pwysigrwydd fwyfwy.

Dyma'r anhwylder nad oes dim modd, yn amlach na pheidio i rywun helpu ei hun drwyddo fo.

Yr un anhwylder â stigma yn dal yn perthyn iddo fo, lie mae hi'n anodd mynd yn ôl i'r gwaith, lle mae hi'n iawn i alw enwau.

Ond eto'r un anhwylder y mae un o bob pedwar ohonon ni'n debyg o ddioddef ohono fo rywbryd yn ystod ein hoes.

Mae'r syniad o anhwylder neu 'achos' poblogaidd yn un anodd. Ond sut bynnag mae ei esbonio fo roeddwn i'n filch o gael rhedeg dros y bychan a'r gwan o blith llu o achosion teilwng iawn. (Mae'r cyfri ar. agor tan y 9fed o Fehefin (Arwel Jones (Mind), d/o Y Llyfrgell Genedlaethol).

Wna'i redeg eto? Wel roedd cymaint o bobl yn rhedeg - 20,000 yn gorffen rhwng pedair a pum awr - nes fy mod i'n dal i feddwl na ches i ddim mo fy nhraed yn gwbl rydd. Ella gallwn i redeg yn gynt? Ella bydda modd cyfiawnhau un arall? Ac wedyn dyna'i diwedd hi."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy