BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Fan a'r Lle
Handel Jones, Rhandirmwyn Y Bardd Coch
Mai 2006
Hanes un o feirdd a phregethwyr Cymru, Y Bardd Coch Thomas Elis gan Handel Jones o Randirmwyn.

Y tu allan i ddrws y capel ym Mhentre'r felin, ger Pontsenni, fe welwch garreg fedd y Parch. Thomas Elis, "yr hwn a fu yn pregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am 32 o flynyddoedd. Efe a fu farw Mawrth 12fed, 1855, yn 62 mlwydd oed."

Hwn oedd y 'Bardd Coch', awdur dros 250 o emynau a gyhoeddwyd ym Merthyr Tudful, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth. Er na ellir cyfrif yr emynau hyn ymhlith goreuon ein cenedl, ni ddylem ddiystyru eu hawdur oherwydd mai iddo ef, mae'n debyg, yr ydym yn ddyledus am y gân hyfryd honno, "Dacw 'nghariad i lawr yn y Berllan."

Fe anwyd Thomas Elis ym Mrynteg, ger Cilycwm, yn 1792. Ef oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth oed a'i fam yn fuan wedyn. Yn ddeg oed, fe anfonwyd Thomas i Lanwrtyd i ddysgu bod yn deiliwr fel ei dad. Roedd un o'i frodyr eisoes yn gweithio yno, fel dilledydd.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudodd Thomas i Ferthyr Tudful lle'r oedd brawd arall yn gweithio a chefnodd i raddau ar ei gefndir crefyddol. Ymhen tair blynedd, aeth brawd arall o Lanwrtyd i'w gyrchu'n ôl i Dref y Ffynhonnau.

Tra'n gweithio i'r brawd hwnnw, fe ddysgodd farddoni a chyflwynodd cyfaill gyfansoddiad o'i eiddo i Eisteddfod Aberhonddu, lle y derbyniodd yr urdd enw, 'Bardd Coch Cantref Buallt'. Ar ôl rhai blynyddoedd, ymsefydlodd fel dilledydd yn Llangamarch, lle y priododd â merch leol, Ann Phillips. Bu hi farw ar ôl saith mlynedd o briodas, yn unig, gan adael dau fab. Bu farw'r hynaf yn ifanc, a daeth y llall yn fasnachwr ym Mhontsenni, ac aelod blaenllaw o gapel Pentre'r felin.

Yn fuan ar ôl priodi roedd Thomas wedi dychwelyd at grefydd a daeth yn weinidog yn Llangamarch. Yn ystod 24 mlynedd ei weinidogaeth, croesodd Fynydd Epynt tua 2,000 o weithiau wrth ymweld â De a Gogledd Cymru - ynghyd â Bryste a Llundain.

Yn ôl un o'i gyfoedion, roedd yn bregethwr grymus, doniol, a derbyniol iawn. Pregethai'n araf dros bymtheg i ugain munud, yna mynd i hwyl. Ei wallt melyngoch roes iddo ei enw barddol. Dioddefodd o asthma ers pan yn ifanc. Ar fore Llun, y cyntaf o Fehefin 1851, ac yntau'n byw gyda'i fab a'i deulu ym Mhontsenni, fe dorrodd gwythien yn ei ysgyfaint. Trawyd ef yn wael, am yr eildro, yn Chwefror 1854.

Er iddo ddal i bregethu, llesgau fu ei hanes. Mewn cyfarfod misol ym Mhentre'r felin, fe gyhoeddodd ei fod 'yn y dalar, ymron darfod â'r maes gweithio'. Y Sadwrn canlynol, teithiodd tua deuddeng militir drwy rew ac eira, i gyhoeddiad. Drannoeth, marchogodd saith milltir a phregethu deirgwaith. Ar y dydd Llun, fe deithiodd adref am y tro olaf ...

(Mae Handel yn ddiolchgar iawn i'r Dr. Meredydd Evans am rannu gwybodaeth.)

Erthygl gan Handel Jones, Rhandirmwyn


Cyfrannwch

amy.ferrell@verizon.net
Thomas Elias, Bardd Coch, was my grandfather's great-grandfather. I have his collection of poems but they are all in Welsh and I cannot speak Welsh. Have they been translated into English? I understand that one of his poems is a popular folk song in Wales. Any information would be greatly appreciated.Amy Parkhurst Ferrell, Sarasota, Florida, USA 941-349-6069
Wed Mar 5 06:12:50 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy