BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Swyn Haf Swyn yn Lourdes
Tachwedd 2009
Hanes Swyn Haf, un o ferched Bow Street, oedd yn destun rhaglen ddogfen ar S4C ym mis Hydref 2009.

Cafodd Swyn Haf ei ffilmio ar gyfer Y Daith, cyfres o chwech o raglenni ar y sianel yn dilyn pererindodau gwahanol.

Fe'i dilynwyd hi a 70 o bobl ifanc eraill wrth iddyn nhw deithio i dref Lourdes yn Ne-Orllewin Ffrainc ym mis Gorffennaf 2009 fel rhan o Bererindod Genedlaethol o Gymru.

Mae Lourdes yn un o brif gysegfrannau'r Eglwys Gatholig ac mae'n denu tua chwe miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, yn eu plith nifer o gleifion sy'n chwilio am iachàd corfforfol neu ysbrydol.

Dangoswyd Swyn a'i ffrind Gwenllian Daniel o Aberystwyth yn gofalu am aelodau o'r Eglwys Gatholig oedd yn sâl, yn oedrannus neu oedd ag anableddau - ac na fyddai wedi gallu ymweld â Lourdes onibai am gymorth y gwirfoddolwyr ifanc.

Yn ystod y rhaglen hefyd, fe welwyd Swyn yn darllen gweddiau'r ymbilïau yn ogof y Grotto - un o lefydd mwyaf sanctaidd Lourdes lle dywedir i'r Forwyn Fair ymddangos i ferch ifanc o'r enw Bernadette ym 1858.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Rhydypennau ac Ysgol Gyfun Penweddig, mae Swyn bellach yn fyfyrwraig ail-flwyddyn ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n astudio Almaeneg a Sbaeneg.

Cafodd ei derbyn i'r ffydd Gatholig yn Eglwys Santes Gwenffrewi yn Aberystwyth ac eleni oedd y drydedd flwyddyn yn olynol iddi hi a Gwenllian fynd i Lourdes gyda Phererindod Cymru.

"Er bod crefydd dan y lach falle braidd yn y cyfryngau dyddie hyn, dydy hyn ddim yn wir - mae na lot o bobl gyda lot o ffydd yn gwneud teithiau ar draws y byd byd i fynd i rywle crefyddol a phobl yn gallu cyd-dynnu a gwneud gwaith da gyda'i gilydd," meddai Swyn.

"Dwi'n meddwl bod Lourdes yn rhywle sy'n dangos cryfder crefydd a'r pwer sydd ganddo i ddod a phobl at ei gilydd."

Cynhyrchwyd Y Daith: Dwy yn Lourdes gan gwmni Unigryw o Aberystwyth ac fe ddarlledwyd y rhaglen Nos Sul 25 Hydref ond mae cyfle i weld i'w gweld o hyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy