BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Jodi Bennett Colofnydd y mis
Rhagfyr 2009
Jodi Bennett yw colofnydd mis Rhagfyr y Tincer.

'Os wyt am fynd i'r toiled bydd rhaid i ti ofyn yn Gymraeg" - geiriau Miss Sian yn atseinio'n glir yn fy nghlust hyd at heddiw.

Dwi'n cofio'r un frawddeg yn cael ei dweud wrthyf yn Ffrangeg flynyddoedd yn hwyrach - doeddwn i ddim mewn sefyllfa well yn 14 oed nag oeddwn yn 5 mlwydd oed yn orffwyll am y toiled a dim syniad sut i ofyn yn yr ieithoedd dieithr yma.

Mae'r ffaith fy mod yn medru cofio'r linell Gymraeg, ond nid yr un Ffrangeg (esq que... esq que rhywbeth) yn adlewyrchu'r ffaith fod yr iaith Gymraeg wedi aros gyda fi o'r diwrnod symudais i Aberystwyth a chychwyn yn Ysgol Rhydypennau er mwyn dysgu Cymraeg.

Ar ôl cyrraedd oedran lle oedd yn dderbyniol i mi fynd i'r toiled, a neud tipyn o bethau eraill, heb ganiatâd symudais i Gaerdydd i gychwyn swydd llawn amser gyda Opera Cenedlaethol Cymru ychydig dros 18 mis yn ôl.

Mae Caerdydd yn "home from home" i mi. Ar wahân i'r holl wynebau cyfarwydd ymhlith y bobl sydd wedi symud yma i fyw neu wedi dod i wneud diwrnod o siopa, rwy'n cael fy nharo'n ddyddiol gyda chymaint o frwdfrydedd a chefnogaeth sydd am yr iaith yma yng Nghaerdydd, weithiau mwy hyd yn oed na pan oeddwn dal i fyw ym Mhenrhyn-coch.

Dwi'n gweithio ym Mae Caerdydd ac mae'r iaith Gymraeg i'w gweld ymhobman - o'r arysgrif "Creu Gwir Fel Gwydr O Ffwrnais Awen" ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, i'r "Twll yn y wal" tu allan i NatWest.

Ychydig wythnosau yn ôl buais i wylio fy ngêm rygbi cyntaf yn Stadiwm Mileniwm Cymru a chefais fy synnu'n llwyr (mewn ffordd dda!) gan sawl un o'r 77,000 oedd yn medru canu'r anthem Gymraeg gyda'r un egni a chystadleuwyr yn yr Eisteddfod.

Fi yw'r unig berson sydd yn medru siarad Cymraeg yn rhugl ymhlith staff swyddfeydd Opera Cenedlaethol Cymru - mae hynny'n beth rhyfeddol i mi, i gychwyn fel yr unig berson nad oedd yn siarad Cymraeg 20 mlynedd yn ôl.

Wedi dweud hynny, efallai synnwch chi i glywed fod sawl person yn y cwmni yn cymryd gwersi Cymraeg amser cinio, ac o leiaf hanner o'r bobl yna yn dod o Loegr.

Mae yna frwdrydedd am yr iaith yma hyd yn oed i'r rhai nad sy'n dod o Gymru!

Mae'r iaith wedi bod o fantais i mi mewn sawl ffordd ... mae'n braf peidio gwisgo offer cyfieithu er mwyn deall siaradwyr mewn cynadleddau; mae'n hwyl i ddefnyddio'r iaith fel cod ddirgel (sut bynnag, y tro diwethaf i mi wneud gyda fy chwaer yn Efrog Newydd roedd y teulu tu ôl i ni yn y ciw hefyd yn siarad Cymraeg felly dyw e ddim wastad yn gweithio); ac mae'n ddifyr i dderbyn pob neges ar yr heolydd ddwywaith!

Mae'r gwersi Cymraeg yn parhau braidd - dwi'n cael fy mhrofi nawr ac yn y man pan fydd cydweithwyr yn gofyn i mi gyfieithu pethau iddynt yn amrywio o neges mewn cerdyn i negus destun ar ffôn symudol.

Weithiau dwi'n cael trafferth gyda'r pethau mwyaf syml - mae'n anghredadwy cymaint o eiriau sydd yn dal gen i i'w ddysgu ...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy