BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Arth gwyn Eirth Hudson Bay
Rhagfyr 2008
Hanes Ann Vaughan a fu ar saffari yn ymweld ag eirth gwyn yn Hudson Bay.

Clywn yn barhaus ar y teledu am Gynhesu Byd Eang, a pha effaith mae hyn yn ei gael ar wahanol agweddau o'n byd.

Mae sefyllfa yr hinsawdd yn newid mor gyfl ym meddai'r gwyddonwyr, yn enwedig tua Cape Churchill, ac na fydd yna eirth gwyn o gwbl ymhen amser yn Hudson Bay Canada.

Mae'r môr yn rhewi yn ddiweddarach ac yn toddi yn gynt bob blwyddyn. Yn Cape Churchill mae'n debyg fod yr eirth yn aros am rew ar y môr, cyn mynd i hela'r morloi am fwyd.

Maent mewn perygl, a chyn hir yn ôl y gwyddonwyr, oherwydd newid hinsawdd bydd yr eirth gwyn yn goroesi yn y gogledd yn unig, ar ymyl yr arctig.

Un a fu ar saffari yn ddiweddar yn Hudson Bay yw Ann Vaughan, Gwarddol Pen-llwyn, a gofynnwyd iddi beth oedd ei phrofi ad hi wrth ymweld ar yr eirth gwyn yn y rhanbarth yma. Mae'n debyg fod y teithiau hyn wedi bod yn cymryd lle o ddechrau mis Hydref hyd canol Tachwedd am ugain mlynedd bellach,_ dim ond ychydig o ddiwrnodau yn wahanol bob blwyddyn.

Roedd arweinwyr y grãp (sef perchnogion y lodge wedi eu geni au magu yn Churchill heb weld unrhyw wahaniaeth yn nifer yr eirth hyd yn hyn, a mwy na hynny roedd yr eirth gwyn mewn cyfl wr bendigedig. Tybed, felly, ai dyfalu y mae y gwyddonwyr?

Gofynnwyd i Ann i roi braslun o'r daith ddiddorol hon, ac ar ôl peth perswâd arni, cafwyd y ffeithiau hyn ganddi.

Ar ôl marwolaeth ei mam-gu Rhiwarthen Isaf Pen-llwyn, bu Ann a'i hewyrth yn gwylio rhaglen deledu ar safari Eirth Polar, a phenderfynu mynd eu dau, ar y gwyliau yma fl wyddyn ar ôl sêl y fferm sef 2001.

Bu rhaid gohirio y sêl hyd 2002 oherwydd y clwy traed a'r genau, ac erbyn hynny roedd ei hewyrth Ossi yn wael iawn gyda leukemia. Dim meddwl mwy am y gwyliau wedyn, am sawl blwyddyn, ond erbyn Hydref 2007 penderfynu archebu tocyn i fynd ar ben ei hun yn 2008.

Cychwyn o Lundain ar 31/10/08 i Minneapolis, yna i Winnipeg ac ymlaen i Churchill, a chwe mil a hanner o fi lltiroedd a 36 awr yn ddiweddarach, cyrraedd y lodge am 11.30 ar 1/11/08. (6 awr o wahaniaeth yn ein hamser ni) Roedd y siwrne yn drafferthus, a llawer o wastraff amser yn y maesydd awyr - teithio ar 4 gwahanol awyren, y fwyaf yn Jumbo 747 a'r lleiaf â chwech o sedd

.

Cafwyd awr i ddadbacio a gorffwys cyn cinio, ac wedyn allan ar trek o 2.00 hyd 5.00, cyn dod yn ôl am swper blasus o ãydd yr eira wedi rhostio, ond wedi blino gormod bron i fwyta. Aethpwyd i'r gwely yn gynnar am 8.30, awr ychwanegol am fod yr awr wedi troi (wythnos ar ôl Prydain) Deffro bore drannoeth am 7.00 yn teimlo wedi dadfl ino yn llwyr, ar ôl cysgu bron rownd y cloc.

Cawsant, meddai Ann, ddau trek bob dydd, un yn y bore, nôl i ginio ac allan eto nes ei bod yn dechrau tywyllu. Roedd yn rhaid bod nôl cyn nos oherwydd byddai yn rhy beryglus yn y tywyllwch. Roedd yna bob amser ddau arweinydd/gwarchodwr efo grãp o ddeuddeg ar y mwyaf.

Nid oedd pawb yn mynd allan ar bob trek ond nid oedd Ann am golli yr un wedi dod yr holl ffordd.

Byddai'r arweinwyr yn cario gwahanol bethau rhag ofn unrhyw drwbwl gyda'r eirth, sef cerrig i dafl u atynt, llawddrylliau yn gwneud sãn fel tân gwyllt, a reiffl os oedd raid.

Roedd bloedd neu peli eira yn ddigonol rhan fwyaf o'r amser, ond defnyddiwyd y fi re cracker un waith yn unig. Hyfrydwch pur oedd gweld yr anifeiliaid gwyllt yn eu cynefi n naturiol eu hunain, a hynny ond tair neu bedair llathen oddi wrthynt.

Gwelsant, yn ychwanegol i'r eirth, llwynog a'r sgwarnog arctig, y caribw, bistach mwsg, bleiddiaid, wolverine, y carlwm, lemings, adar fel y dylluan eira a'r grugiar. Roedd y gwyddau eira a'r môr wennol y gogledd wedi ymfudo cyn iddynt gyrraedd.

Roedd cogydd arbennig yn y lodge yn coginio y cyfan yn ffres bob dydd - bara, waffl es, cacennau ac hefyd cig lleol fel yr Ðydd eira, caribw a bustach mwsg. Roedd y siop agosaf siwrne awr mewn awyren fechan, felly roedd y cyfl enwad bwyd yn dod gyda phob parti unwaith yr wythnos.

Ar y diwrnod olaf cyn dod adre, roeddent i fod i gael un diwrnod yn Churchill ei hun (y dref/ pentref agosaf, tua maint Aberaeron neu Machynlleth.) lle roedd carchar yr eirth, amgueddfa, a siopau wrth gwrs. Ond oherwydd whiteout blizzard fel y gelwir, roedd yn amhosib symud o'r fan - felly diwrnod ychwanegol yn y lodge - neb yn cwyno!

Bore drannoeth, roedd yn well, ond yn dal yn eira trwm, ond gallasent fynd ar yr awyren fach tua canol y prynhawn, i ddechrau'r siwrnau hir adref. Un siom a gafodd Ann, oherwydd bwrw eira bob nôs, ni chafwyd y cyfl e i weld goleuni'r gogledd, yr aurora borealis.

Byddai hynny meddai, wedi coroni'r cwbsl yn hyfryd iawn. Yn sicr roedd y cyfan yn gyfl e gwych ac yn brofi ad anhygoel.

Diolch Ann, am fod yn ein "Iolo Williams" am y mis!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy